Mae'r Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn trafod opsiynau datblygu ar gyfer sawl adeilad gwag ar Stryd y Taf yn rhan o'i strategaeth adfywio ar gyfer Pontypridd. Ymhlith yr adeiladau hyn mae hen adeilad Marks and Spencer.
Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar gynlluniau adfywio pwysig ar draws Pontypridd ddydd Llun 15 Tachwedd. Roedd y cynlluniau'n rhan o fframwaith adfywio ar gyfer y dref ('Pivotal Pontypridd - Delivering Growth') yn 2017, pan gafodd ei nodi’n un o bump o Ardaloedd Cyfleoedd Strategol o ganlyniad i'r potensial ar gyfer datblygiad economaidd.
Mae adroddiad y Cabinet yn nodi'r cyflawniadau hyd yn hyn (yn cynnwys Rhaglen Adfywio Canol Trefi, Llys Cadwyn, Lido Ponty, Gorsaf Rheilffordd Pontypridd a phont droed Parc Ynysangharad). Yn ogystal â hyn mae'r adroddiad yn cynnwys diweddariadau am gynnydd prosiectau sydd eisoes wedi’u dechrau (gan gynnwys YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni, safle'r hen Neuadd Bingo a Chwrt yr Orsaf).
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar 96-99a a 100-102 Stryd y Taf, sef hen adeiladau Marks and Spencer, Dorothy Perkins a Burtons. Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi meddiannu'r adeiladau ym mis Mawrth 2021, gyda buddsoddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y Cyngor ar hyn o bryd yn trafod opsiynau datblygu ar gyfer y safle a chyfuno'r adeiladau â datblygiad adfywio Canol y Dref sydd â’r nod o greu buddion gweladwy, arwyddocaol i'r dref a’r ardaloedd o'i hamgylch.
Mae'r adroddiad yn amlygu bod uwchgynllun ar gyfer y dref bron wedi'i orffen gyda’r gobaith o’i gyflwyno yn lle fframwaith adfywio 2017-2022.
Mae modd i Aelodau'r Cabinet gytuno bod angen adroddiadau pellach yn y flwyddyn newydd sy’n cynnwys cynigion manwl ar gyfer safle'r Neuadd Bingo, opsiynau posib ar gyfer safle M&S/Burtons a Dorothy Perkins, a manylion am ddrafft yr uwchgynllun ar gyfer y dref. Bydd yr adroddiad hefyd yn amlygu trefniadau manwl i ymgysylltu â’r gymuned am bob un o'r cynigion.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae'r adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn amlinellu'r cynnydd enfawr dros y blynyddoedd diwethaf o ran ein strategaeth adfywio ar gyfer Pontypridd, gan gynnwys sôn am gyflwyno Lido Ponty, Llys Cadwyn a phont droed newydd Parc Ynysangharad.
“Mae hefyd rhestr hir o gynlluniau sydd naill ai’n datblygu ar hyn o bryd neu sydd wedi'u clustnodi ar gyfer y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys safle Neuadd Bingo Pontypridd, sydd wedi'i dymchwel ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, YMCA Pontypridd bydd yn agor ddechrau 2022, cyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf yn Graig sydd wedi croesawu’r preswylwyr cyntaf yn ddiweddar, ac ailddatblygiad Canolfan Gelf y Miwni sydd bellach wedi sicrhau £5.3miliwn o gyllid.
“Mae'r Cyngor hefyd wedi meddiannu hen adeiladau Marks and Spencer, Dorothy Perkins a Burtons sydd yng nghanol tref Pontypridd. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth feddiannu'r adeiladau yma, dyma gyfle datblygu cyffrous arall ar gyfer y dref ac, os bod y Cabinet yn cytuno ddydd Llun, byddwn ni’n derbyn cynllun arall yn y flwyddyn newydd yn amlinellu opsiynau posib ar gyfer y safle."
Wedi ei bostio ar 09/11/21