Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi manylion y tri achlysur wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal yn y gymuned yn rhan o gam un ei Ymgynghoriad ar Gyllideb 2022/23. Mae hyn er mwyn i drigolion ddweud eu dweud ar flaenoriaethau buddsoddi.
Dechreuodd cam un yr ymgynghoriad eleni ar 26 Hydref. Mae'n canolbwyntio ar flaenoriaethau buddsoddi, lefelau Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd. Mae trigolion wedi bod yn dysgu rhagor ac yn dweud eu dweud trwy gwblhau arolwg ar wefan Dewch i Siarad y Cyngor. Mae modd i'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd gymryd rhan mewn ffyrdd traddodiadol trwy ofyn am arolwg ar bapur neu gyfrannu trwy'r post.
Manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud yn ystod cam un yr ymgynghoriad ar Gyllideb 2022/23 yma
Oherwydd y pandemig, mabwysiadodd y Cyngor ddull 'digidol yn bennaf' o ymgynghori â thrigolion y llynedd er mwyn cydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol. Serch hynny, yn sgil llacio rhai cyfyngiadau eleni mae'n bosibl cynnal achlysuron wyneb yn wyneb unwaith eto. Wrth gwrs, rhaid parhau i lynu wrth fesurau diogelu pwysig i atal y Coronafeirws rhag lledaenu.
O ganlyniad i hyn, bydd ôl-gerbyd y Cyngor mewn lleoliadau awyr agored ar gyfer tri achlysur yn ystod yr wythnosau nesaf lle bydd modd i drigolion ddweud eu dweud wyneb yn wyneb. Bydd modd siarad â Swyddogion, darllen gwybodaeth ar gyfrifiaduron llechen a phleidleisio mewn arolygon. Mae croeso i bawb alw heibio i'r achlysuron canlynol:
- Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd (bydd yr ôl-gerbyd ger pont siop Marks & Spencer) - Dydd Mercher, 17 Tachwedd (10am-2pm).
- Canol Tref Aberdâr (bydd yr ôl-gerbyd yn Sgwâr y Llyfrgell) - Dydd Mercher, 24 Tachwedd (10am-2pm).
- Siop Co-op Treorci (bydd yr ôl-gerbyd yn y maes parcio) - Dydd Mercher, 1 Rhagfyr (10am-2pm).
Bydd cam un yr ymgynghoriad ar Gyllideb 2022/23 yn para tan 7 Rhagfyr. Bydd yn llywio strategaeth gyllideb ddrafft, sy'n seiliedig ar y cyllid arfaethedig y bydd Llywodraeth Cymru'n ei roi i Awdurdodau Lleol. Bydd cam dau'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd, gan ofyn i drigolion am eu barn ar y strategaeth ddrafft.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Rydyn ni'n croesawu cynnal achlysuron wyneb yn wyneb eto wrth i ni geisio cyrraedd cynifer o bobl â phosibl yn ein hymgynghoriad blynyddol ar y Gyllideb. Mae cam un y broses yn helpu i lywio gwybodaeth Swyddogion a'r Cabinet wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau mewn perthynas â phennu cyllideb ddrafft, a dyna pam rydyn ni'n annog pawb i gyfrannu gymaint ag sy'n bosibl.
“Bydd yr achlysuron wyneb yn wyneb ym Mhontypridd, Aberdâr a Threorci yn rhoi cyfle i drigolion siarad â Swyddogion. Bydd modd iddyn nhw ateb unrhyw gwestiynau am y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r achlysuron yma'n cynrychioli elfen bwysig o'r dulliau traddodiadol o ymgysylltu â thrigolion sydd efallai heb fynediad i'r rhyngrwyd, yn ogystal ag arolygon ar bapur ac ymateb drwy'r post. Mae hyn oll ar ben y dulliau digidol rydyn ni'n eu defnyddio hefyd.
"Mae'r Cyngor hefyd yn ymgysylltu â nifer o grwpiau allweddol fel y Grŵp Cynghori ar Bobl Hŷn, Cylchoedd Trafod Pobl Ifainc Rhondda Cynon Taf, ysgolion, y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad, y Pwyllgor Cyd-Gysylltu â'r Gymuned, y Cylch Trafod Materion Anabledd a grwpiau'r Lluoedd Arfog/Cyn-filwyr.
“Dyma annog yr holl drigolion sydd â diddordeb i alw heibio i un o'r tri achlysur yn y gymuned ar unrhyw adeg rhwng 10am a 2pm i ddweud eu dweud ar flaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor. Bydd cam yma'r ymgynghoriad yn parhau tan 7 Ragfyr, a bydd Cam Dau yn ei ddilyn yn y flwyddyn newydd, lle bydd modd i drigolion roi adborth ar y Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23."
Wedi ei bostio ar 12/11/2021