Bydd ymchwiliadau safle yn cael eu cynnal ar bont droed Rheilffordd Llanharan yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn golygu newid i drefniadau cerddwyr am gyfnod byr wrth i'r Cyngor barhau i weithio tuag at ddarparu strwythur newydd.
Mae'r bont droed yn parhau i fod ar gau ar ôl i archwiliad diweddar ddarganfod bod ei chyflwr yn dirywio. Gan fod y bont droed wedi gorfod cau, bydd lôn ar y bont ffordd sydd wrth ei hymyl, sef Heol Pen-y-bont - A473, yn cau ac yn cael ei ddefnyddio fel toedffordd dros dro.
Mae'r camau nesaf tuag at ailosod y bont yn cynnwys ymchwiliadau safle yn dechrau ddydd Llun, 29 Tachwedd. Bydd y gwaith yma'n parhau am chwe diwrnod gwaith tan 4 Rhagfyr. Yna bydd arolwg teledu cylch cyfyng yn dilyn ddydd Llun, 6 Rhagfyr.
Bydd y cynllun rheoli traffig yn cael ei addasu i alluogi'r gwaith, ond bydd y ffordd yn parhau ar agor i gerbydau yn dilyn y drefn goleuadau traffig dwyffordd cyfredol.
Fodd bynnag, does dim modd cynnal mynediad i gerddwyr ar draws y bont ffordd bob dydd, felly bydd gwyriad yn cael ei weithredu trwy groesfan pont droed arall yr orsaf ac Heol y Capel, a bydd arwyddion i bob cyfeiriad. Yna bydd y drefn gyfredol yn dychwelyd pob nos.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r eisoes wedi ymrwymo i ddarparu pont droed newydd yn y lleoliad yma ar ôl i arolygiad ddatgelu gymaint o ddifrod. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio tuag at gyflawni hwn yn gynllun blaenoriaeth cyn gynted â phosibl, gan gysylltu â rhanddeiliaid allweddol megis Network Rail.
“Bydd angen cynnal gwaith ymchwilio maes o law er mwyn cadarnhau addasrwydd gweithrediadau codi craen angenrheidiol i ailosod y bont droed. Bydd y gwaith hefyd yn cadarnhau dyluniad sylfeini’r strwythur newydd, gyda gwaith i osod y bont newydd yn dechrau yn ystod y Flwyddyn Newydd yn unol â'r amserlen.
“Hoffwn i ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd a’u cydweithrediad parhaus gyda'r systemau rheoli traffig parhaus yn y lleoliad yma. Does dim disgwyl i weithgaredd safle’r wythnos nesaf achosi unrhyw darfu pellach ar ddefnyddwyr y ffordd. Bydd cerddwyr yn cael eu cyfeirio at y groesfan bont amgen yn ystod y dydd.”
Wedi ei bostio ar 25/11/21