Mae'r Cyngor yn annog ei holl drigolion i fwynhau Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni, ond i gadw'n ddiogel a bod yn ystyrlon o eraill, gan gynnwys Cyn-filwyr y Lluoedd arfog, yr henoed, ac anifeiliaid anwes a gwyllt.
Tra bod nifer yn edrych ymlaen at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt mae eraill, fel ein cyn-filwyr sy'n byw â chyflwr Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn teimlo'n orbryderus yn y cyfnod sy'n arwain at 31 Hydref a 5 Tachwedd.
Cofiwch, cofiwch, nid dim ond 5 Tachwedd, ond yr unigolion hynny sy'n byw â chyflwr PTSD. Mae angen cefnogaeth ychwanegol ar nifer o bobl yn ein cymunedau yr adeg yma o'r flwyddyn, ac mae angen gofal a chariad ychwanegol ar anifeiliaid.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:
"Mae'r deunaw mis diwethaf wedi bod yn hynod o anodd inni gyd, ac mae'n gwbl ddealladwy bod nifer yn edrych ymlaen at ddathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt gyda ffrindiau a theulu.
"Hoffwn weithio gyda'n cymunedau er mwyn sicrhau bod modd gwneud hynny yn ddiogel. Gofynnwn hefyd bod ein trigolion yn ystyried pobl eraill wrth wneud hynny. Mae hi'n hyfryd gweld cynifer o bobl o bob oed yn mwynhau ar 31 Hydref a 5 Tachwedd. Serch hynny, mae nifer sy'n cael trafferth ymdopi â'r adeg yma o'r flwyddyn.
"Gall tân gwyllt, goleuadau dwys a synau uchel sydyn achosi trawma personol i nifer felly byddwch yn ystyrlon o'ch cymdogion, yn ogystal â meddwl am yr holl anifeiliaid sy'n byw yn yr ardal. Gall y cyfnod yma achosi llawer o straen iddyn nhw, a gall y synau uchel a fflachiadau o olau o'u hamgylch eu drysu.
“Mae'n syniad da i roi digon o rybudd i'ch cymdogion os ydych chi'n bwriadu cynnau tân gwyllt neu goelcerth, neu'n ystyried cael parti. Fel hyn, gall y rheiny sydd ag anifeiliaid neu sy'n byw gyda PTSD baratoi ymlaen llaw.”
Mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn uchafbwyntiau yng nghalendrau sawl teulu - cerfio pwmpenni, dowcio afalau, gwisgoedd ffansi, coelcerthi a thân gwyllt. Ond i rai, mae'r achlysuron hydrefol yma yn esgus i ymddwyn mewn modd gwrth-gymdeithasol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n agos â'r gymdeithas Lluoedd Arfog a Heddlu De Cymru drwy gydol y flwyddyn ac unwaith yn rhagor, yn cefnogi Ymgyrch Bang 2021.
Cofiwch nad ydy Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn hwyl i bawb. Mae'r cyfnod yma, fel arfer, yn hynod brysur ar gyfer ein Gwasanaethau Brys, gyda swyddogion i'w gweld o amgylch ein cymunedau yn arwain at, a thrwy gydol y dathliadau, er mwyn helpu i rwystro a chanfod ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Gall tân gwyllt a choelcerthi fod yn hwyl, ond maen nhw hefyd yn hynod o beryglus heb eu rheoli a'u trin yn gywir. Peidiwch â chreu risg ar gyfer eich teulu, ffrindiau na chymuned.
Mae tanau yn medru lledaenu tu hwnt i reolaeth mewn eiliadau, gan achosi difrod i eiddo, anafiadau a marwolaeth. Mae digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi yn golygu nad ydy ein diffoddwyr tân yn medru cyrraedd argyfyngau eraill mewn pryd.
Mae mwg yn gallu effeithio ar y gwddw, croen a llygaid gan achosi peswch, brest dynn, diffyg anadlu a phoen yn y frest. Gallai'r mwg effeithio ar bobl sydd â COVID-19, asthma ac anhwylderau anadlol eraill.
Meddyliwch hefyd am yr holl anifeiliaid yn y cyfnod yma. Gall synau uchel a fflachiadau sydyn eu cynhyrfu a chodi ofn arnyn nhw. Gallai'r cynnwrf hwnnw beri iddyn nhw grynu, cnoi ac ymddangos yn aflonydd. Mae chwydu a chuddio yn ymatebion cyffredin.
Mae'n hawdd rhoi braw i geffylau ac anifeiliaid fferm hefyd, a gallan nhw anafu eu hunain ar ffensys, offer neu, os ydyn nhw mewn stabl neu dŷ, ar osodiadau a ffitiadau sydd o'u hamgylch.
RSPCA - Sut I Gadw'ch Anifeiliaid yn Ddiogel
Wedi ei bostio ar 05/11/21