Skip to main content

Mae modd 'Ask for Angela' yn nhafarndai RhCT!

Mae Cyngor RhCT yn atgoffa pob un o'i drigolion ac ymwelwyr sy'n fenywod bod gyda ni i gyd ffrind yn Angela.

Bwriad Wythnos Ddiogelu 2021 yw codi ymwybyddiaeth ynghylch y problemau y gallech chi eu hwynebu, a ble i droi os ydych chi mewn sefyllfa sy'n eich gadael yn agored i niwed.

Bydd Carfan Cymunedau Diogel RhCT yn gweithio gyda phob safle sydd â thrwydded ar hyd a lled RhCT er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoi hyfforddiant i staff ar sut i roi cymorth i'r rheiny sy'n agored i niwed ac yn gorfod 'Ask for Angela'.

Ymgyrch yw “Ask for Angela” sy'n diogelu unigolion rhag aflonyddwch mewn tafarndai a lleoliadau eraill trwy ddefnyddio gair dynodedig er mwyn nodi pan maen nhw mewn perygl neu sefyllfa anghyfforddus.  

Cyngor Sir Swydd Lincon gyflwynodd ymgyrch wreiddiol “Ask for Angela” nôl yn 2016. Nod yr ymgyrch oedd newid y diwylliant o drais a cham-drin rhywiol, gan alluogi'r rheiny sy'n teimlo'n agored i niwed mewn tafarndai a chlybiau nos fynd at staff yn dawel fach a gofyn am gymorth.

Os ydych chi ar noson allan gyda ffrindiau neu ar ddêt sydd ddim yn mynd fel roeddech chi'n ei ddisgwyl ac rydych chi'n teimlo y gallech fod mewn perygl, cofiwch 'Ask fro Angela'. Byddwch yn derbyn cymorth, heb dynnu sylw at eich hun. Gallai'r cymorth yma olygu dod o hyd i ffrind rydych chi'n ymddiried ynddo, sicrhau eich bod yn cyrraedd tacsi, neu trwy ffonio carfan ddiogelwch y lleoliad ac/neu yr heddlu.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, a Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd: "Mae'r fenter yma wedi bod yn llwyddiant enfawr yn genedlaethol ac rwy'n falch ein bod ni'n rhoi sylw i’r cynllun yn Rhondda Cynon Taf.

"Rwy'n gwybod bydd y Garfan Cymunedau Diogel yn gweithio gyda phob safle sydd â thrwydded er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen pan mae'r sefyllfaoedd yma'n codi. Mae hawl gan bawb i deimlo'n ddiogel yn ein cymunedau ac mae 'Ask for Angela' yn help i fenywod deimlo bod modd iddyn nhw ymddiried yn eu ffrind, Angela."

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.met.police.uk/AskforAngela
Wedi ei bostio ar 15/11/21