Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn gweld estyniad i dymor 2021, sy'n golygu y bydd y safle hynod boblogaidd nawr yn cau ddydd Gwener, 29 Hydref.
Er i'r nosweithiau ymestyn, mae'r Lido yn dal i fod yn boblogaidd ymhlith preswylwyr ac ymwelwyr, gan ddenu mwy na 92,500 o ymwelwyr eleni. O ganlyniad, 2021 yw'r flwyddyn brysuraf ers i'r Lido ailagor yn 2015, a hynny er gwaethaf yr heriau niferus a wynebwyd a'r cyfyngiadau sydd eu hangen!
Yn ogystal â hynny, byddwn yn ailgydio yn y sesiwn nofio Gŵyl San Steffan a bydd manylion pellach am hyn yn cael eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor RhCT: “Rwy’n falch o gadarnhau y bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn aros ar agor am bron i bythefnos arall, gyda’r cyfleuster yn cau ddydd Gwener, 29 Hydref, diolch i ymroddiad staff y Lido.
“Yng ngoleuni’r heriau rydyn ni wedi eu hwynebu o ran cyfyngiadau ar nifer yr ymwelwyr, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleuster yn aros ar agor cyhyd ag y bo modd er mwyn rhoi cymaint o gyfle i breswylwyr ac ymwelwyr defnyddio'r Lido â phosibl.
“Er gwaethaf hyn, hon yw'r flwyddyn brysuraf ers i’r Lido ailagor yn 2015, sy'n gyflawniad enfawr ac yn dystiolaeth o apêl y Lido fel un o atyniadau gorau Cymru.
“Mae hefyd yn hynod o braf cadarnhau y bydd sesiwn nofio Gŵyl San Steffan yn dychwelyd eleni, ac rwy’n siŵr y bydd ein preswylwyr yn edrych ymlaen at y digwyddiad. Bydd y Cyngor yn darparu rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer Gŵyl San Steffan dros yr wythnosau nesaf.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged bersonol i staff Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, am eu gwaith caled trwy gydol tymor 2021 o ran cadw'r safle ar agor a dal ati i groesawu ymwelwyr."
Wedi ei bostio ar 18/10/21