Skip to main content

Dathlu ein Mannau Gwyrdd

Aberdare Park Band Stand

Mae gan ardal Rhondda Cynon Taf rai o'r parciau a mannau gwyrdd gorau yng Nghymru – mae'n swyddogol!

Mae elusen Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr diweddaraf y Faner Werdd a'r Wobr Gymunedol ledled y wlad. Mae 13 o'n parciau a gerddi cymunedol wedi cael eu cydnabod.

Mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd, sydd bellach yn ei thrydedd degawd, yn arwydd i'r cyhoedd fod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw’n hardd a bod ganddo gyfleusterau rhagorol i ymwelwyr.

Yn chwifio'r Faner Werdd yn falch yn Rhondda Cynon Taf mae Parc Aberdâr, Parc Gwledig Cwm Dâr, Parc Ffynnon Taf a Pharc Coffa Ynysangharad.

Yn derbyn Gwobr Gymunedol mae Pwll Butchers, Ynys-y-bwl; Gardd Dawel Capel Blaen-y-cwm; Parc Gwledig Cwm Clydach; Canolfan Awyr Agored Daerwynno, Llanwynno; Pwll Gerddi Lee, Penrhiwceiber; Gardd Gymunedol Pont-y-clun; Eglwys Santes Gwenffriwi, Penrhiwceiber; Gardd Gymunedol Wimbles, Llanharan; a Gardd Gymunedol Wimbles, Brynna.

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:  “Unwaith eto rydw i'n falch bod cynifer o'n parciau a mannau gwyrdd lleol wedi cael eu cydnabod yn swyddogol gan elusen Cadwch Gymru'n Daclus.

“Mae'r Faner Werdd yn arwydd rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon ac rydyn ni'n falch o fod yn chwifio'r Faner Werdd mewn parciau ledled ein Bwrdeistref Sirol.

“Yn gynharach eleni, lansiodd y Cyngor ei sgwrs ar-lein 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT' gyda thrigolion a busnesau lleol, gan geisio barn am faterion megis sut mae modd i'r Cyngor lywio ei gynlluniau 'Gwyrdd' ar gyfer y dyfodol.

“Ein nod yw sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Garbon Niwtral erbyn 2030 a bod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny hefyd.

“Mae modd i bob un ohonon ni gymryd cam tuag at amddiffyn yr amgylchedd, ni waeth pa mor fawr neu fach. Mae llwyth o drysorau naturiol yma yn Rhondda Cynon Taf sy'n cyfrannu at leoliad perffaith i dreulio'r penwythnos yn crwydro.

“Rydyn ni'n annog pawb i wneud yn fawr o'r hyn sydd o'u cwmpas nhw trwy fynd i'w parciau a mannau gwyrdd lleol yn ystod y tymhorau gwahanol.”

Mae'r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yn gyfrifol am raglen Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru. Ar ddechrau’r hydref, gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol ar fannau gwyrdd eu hamser i farnu safleoedd yr ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad y gymuned.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobrau'r Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: “Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau.   Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”

Ewch i'ch parc lleol https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/Thingstodo/Parks/Parks.aspx

DywedoddJulie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol a trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld pa mor bwysig mae’r mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol. 

“Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae’n rhagorol gweld mwy o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Cymunedol y Faner Werdd.  

“Mae’r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rwyf yn llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.”

Wedi ei bostio ar 14/10/21