Skip to main content

Cymunedau wedi'u heffeithio gan lifogydd dros nos

Mae llifogydd dros nos wedi effeithio ar sawl eiddo yn Rhondda Cynon Taf – gan gynnwys yn Nhrehafod, Cilfynydd, Tonyrefail a Rhydfelen.

Cafodd ardal Rhydfelen yn benodol ei heffeithio'n ddifrifol, gydag o leiaf 30 o eiddo yno wedi cael eu difrodi. Cwympodd 50-100mm neu 2-4 modfedd o law yr awr. 

Daeth y llifogydd yn Rhydfelen yn sgil y glaw mawr yn hwyr gyda'r nos. Yn sgil y glaw, cwympodd cryn dipyn o rwbel a malurion oddi ar ochr y mynydd – gan effeithio'n benodol ar ardal Ffordd y Cae Ŷd y pentref. Cafodd dros 50 tunnell o falurion eu symud o un cwlfer y bore yma.

Mae monitorau camerâu y Cyngor yn cadarnhau bod y cwlferi yn yr ardal yn glir a bod dŵr yn llifo'n rhydd ynddyn nhw hyd at awr cyn y llifogydd, a ddaeth o ganlyniad i'r tywydd garw a difrifol. Serch hynny, roedd y cwlferi o dan 50 tunnell o falurion o fewn dwy awr.

Cafodd llifddorau eu gosod wrth fynedfeydd y cwlferi mewn ymgais i osgoi difrod mewnol i'r mwyafrif o eiddo.

Aeth swyddogion y Cyngor a chriwiau glanhau i Rhydfelen yn oriau mân y bore, ac mae nifer ohonyn nhw yn yr ardal o hyd, yn gweithio'n agos â thrigolion a busnesau lleol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn asesu'r difrod a gafodd ei achosi a'r effaith y mae'n ei chael ar y gymuned.

Ydych chi wedi'ch effeithio gan y llifogydd? Ffoniwch y Cyngor ar 01443 425001.

Wedi ei bostio ar 05/10/2021