Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi darlledu cyfarfod pwyllgor yn fyw am y tro cyntaf, gan alluogi'r cyhoedd i wylio'r broses ddemocrataidd yn fyw.
Roedd modd i bobl wrando'n fyw ar y Cabinet yn mynd ati i wneud penderfyniadau, yn ogystal â dilyn yr agenda. Mae hyn yn cynrychioli datblygiad pellach o ran cyfranogiad y cyhoedd.
Ymhlith yr eitemau a gafodd eu trafod gan y Cabinet oedd Perfformiadau'r Nadolig Theatrau RhCT; Prosiect Tirwedd Fyw, Dull Gweithredu'r Cyngor o ran Cartrefi Gwag, fel sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth Cartrefi Gwag; Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor (Drafft) ac Ymgysylltu mewn perthynas â Chyllideb y Cyngor 2022/23.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Mae darlledu cyfarfodydd Cabinet y Cyngor yn fyw yn cynrychioli datblygiad pwysig ar gyfer yr Awdurdod Lleol, gan alluogi'r cyhoedd i chwarae rôl fwy gweithredol nag ydyn nhw fel arfer yn ei gwneud.
"Yn ogystal â dilyn Agenda'r cyfarfod a gwrando ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud wrth iddyn nhw gael eu gwneud, mae modd i'r cyhoedd wylio cyfarfodydd hybrid sydd wedi cael eu cynnal yn y gorffennol a'u llwytho i wefan y Cyngor.
“Mae recordiadau ar gael i'r cyhoedd fel bod modd iddyn nhw weld sut mae'r penderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar eu cymunedau nhw'n cael eu gwneud. Y cam nesaf yw cyflwyno'r broses gweddarlledu i bob un o'r pwyllgorau. Y darllediad byw nesaf fydd cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
"Mae'r garreg filltir yma'n dangos bod y Cyngor wedi cyflawni ymrwymiad allweddol, sef gwella'r ffordd y mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â'r Cyngor, trwy ddarlledu cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol."
Roedd y darllediad byw hefyd yn cynnwys dolen i dudalen we'r Pwyllgor, gan roi cyfle i'r rhai oedd yn gwylio gweld manylion yr Aelodau Etholedig a'r Swyddogion oedd yn siarad â'r Pwyllgor. Trwy ddarlledu cyfarfodydd yn fyw, mae gan y sawl sy'n gwylio ar-lein gyfle i ddewis sianel Cymraeg neu Saesneg.
Yn dilyn y cyfarfod, bydd y recordiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor er mwyn i bobl wylio'r cyfarfod eto yn y dyfodol, ynghyd â phob cyfarfod hybrid arall sydd wedi cael ei gynnal.
Gweddarllediadau Cyngor Rhondda Cynon Taf
Bwriad y Cyngor yw cyflwyno'r dull hybrid yma i ragor o Bwyllgorau gan ddarlledu rhagor o gyfarfodydd yn fyw a hynny er mwyn annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Ar 20 Gorffennaf, roedd y Cabinet wedi cynnal ei gyfarfod hybrid cyntaf, a gafodd ei recordio a'i osod ar wefan y Cyngor er mwyn i bobl ei wylio. Ers hynny, mae pob un o gyfarfodydd y Cabinet wedi cael ei gynnal gan weithredu'r dull hybrid a'u gweddarlledu gan ddefnyddio'r system recordio newydd.
Aeth Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ati i gynnal ei gyfarfod hybrid cyntaf ar 6 Medi, ac mae wedi cynnal cyfarfod hybrid pellach erbyn hyn. Yn ogystal â hyn, cynhaliodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei gyfarfod hybrid cyntaf ar 12 Hydref.
Caiff y recordiad o'r cyfarfod ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor cyn gynted ag y bo modd, a bydd y rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r recordiad o'r cyfarfodydd hefyd yn cynnwys nodweddion rhyngweithiol y mae modd i'r gwylwyr eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr eitem sy'n cael ei thrafod a manylion yr Aelodau Etholedig a'r Swyddogion sy'n cyfrannu at y trafodaethau.
Yn ystod cyfarfodydd hybrid y Cabinet a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, roedd rhai Aelodau Etholedig wedi ymuno â'r cyfarfod ar-lein, gan ddefnyddio rhaglen Zoom, ac eraill wedi mynd i Siambr y Cyngor, gan gydymffurfio â'r mesurau diogelwch COVID-19 sydd ar waith heb fynd tu hwnt i'r uchafswm o 26 o leoedd sydd ar gael yn y Siambr i gydymffurfio â'r rheolau hynny.
Bydd y Cyngor yn parhau i gyflwyno cyfarfodydd hybrid yn raddol, gan fynd ati i ddarlledu cyfarfod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ym mis Tachwedd yn fyw. Bydd y broses o gyflwyno'r dull hybrid yma'n cael ei chynnig i Bwyllgorau eraill.
Wedi ei bostio ar 23/10/21