Skip to main content

Cynllun 'Arbed' ym Mhenrhiwceiber sydd â'r nod o fynd i'r afael â Thlodi Tanwydd ac Allyriadau Carbon

WhatsApp Image 2021-10-26 at 17.27.01

Mae cynllun ynni cynaliadwy gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi tanwydd wedi darparu mesurau newydd i arbed ynni ac arian i 113 cartref ym Mhenrhiwceiber ers mis Medi 2020.

Nod Cynllun Arbed am Byth – wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Llywodraeth Cymru yn rhan o'r cynllun Cartrefi Cynnes – yw mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â helpu i leihau Allyriadau Carbon yn yr ardal beilot.  Nod y cynllun yw darparu systemau inswleiddio a gwresogi effeithlon i aelwydydd yn ardal Penrhiwceiber sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni uchel.

Mae'r mesurau ynni sydd wedi'u gosod mewn 113 o gartrefi wedi cynnwys inswleiddio llofftydd, boeleri cyddwyso, rheolyddion gwresogi, systemau gwres canolog newydd, gwresogyddion storio trydan, paneli ffotofoltäig solar, goleuadau Deuodau Allyrru Golau (LED), a thapiau dŵr effeithlon. Mae'r mesurau ynni newydd yma yn golygu bod buddsoddiad allanol amcangyfrifedig o hanner miliwn o bunnoedd wedi'i wneud yn ardal Penrhiwceiber. 

Cafodd y prosiect ei gynnal ar ôl holi pobl o 350 o aelwydydd ar garreg eu drysau yn ogystal â derbyn dros 140 o alwadau ffôn gan drigolion oedd â diddordeb. Roedd hyn yn dangos pa mor fawr oedd y galw yn yr ardal yma.  Er gwaethaf y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil y pandemig a oedd yn rhwystro sgyrsiau wyneb yn wyneb, cafodd y cynllun groeso mawr. Yn y fideo yma, mae sylwadau un trigolyn lleol.

Un o gynlluniau eraill Rhondda Cynon Taf yw'r Grant Gwresogi ac Arbed a gafodd ei sefydlu ym mis Tachwedd 2020 fel cynllun peilot i ddarparu cymorth i 20 o aelwydydd oedd mewn perygl o dlodi tanwydd ond nad oedd efallai yn gymwys i fanteisio ar ffynonellau eraill o gymorth ariannol trwy grantiau eraill y Cyngor neu gynlluniau allanol fel Cynllun NYTH Llywodraeth Cymru.  Mae'r grant yma ar gael i atgyweirio, ailosod neu osod system wresogi newydd, a bydd yn darparu cyllid o hyd at £5,000. Mae 10 cais wedi'i wneud hyd yn hyn, gyda mwyafrif y ceisiadau yn dod i £1,500.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i herio tlodi tanwydd, ac mae'n bwysig bod y mesurau rydyn ni'n eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n wynebu trigolion yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn mynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd rydyn ni i gyd yn ei wynebu.

“Ar yr un pryd, yn ôl y rhagamcanion, bydd 80% o'r stoc dai sy'n bodoli heddiw yn bodoli o hyd yn 2050. Felly, os ydyn ni'n mynd i fwrw unrhyw un o'r targedau net sero neu garbon is, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar gynlluniau fel hyn ym Mhenrhiwceiber ar gyfer tai presennol. Mae partneriaid cadwyn gyflenwi hefyd wedi cael eu dewis yn lleol sy'n helpu i leihau carbon, a darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a phrentisiaethau yn lleol.”

Mae modd dod o hyd i gyngor a chymorth ynglŷn â'r grant ar dudalen Gwresogi ac Arbed y Cyngor: www.rctcbc.gov.uk/GwresogiacArbed

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, cysylltwch â charfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk

Os ydych chi'n byw ym Mhenrhiwceiber ac angen rhagor o wybodaeth am y cynllun yma, cysylltwch â charfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hefyd ar gael yma: https://www.arbedambyth.wales/index.html

 

 

Wedi ei bostio ar 26/10/21