Skip to main content

Rhodd Clwb Pêl-droed i'r Gymuned yn 'Achubwr Bywyd'

Defibrillator Donation

Hoffai'r Cyngor ddiolch i Glwb Pêl-droed Pontypridd am godi arian i brynu diffibriliwr newydd er budd yr holl gymuned.

Roedd y rhodd yn bosibl ar ôl cynnal raffl fawr. Y brif wobr oedd crys gemau rhyngwladol tîm pêl-droed Cymru, wedi'i llofnodi gan gyn-berchennog y crys, Aaron Ramsey.

Aeth y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth ati i gwrdd â Nigel Wheeler, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Pontypridd, i ddiolch iddo am ymdrechion codi arian gwych y clwb. Os oes angen ei ddefnyddio, mae'r diffibriliwr newydd ar gael i drigolion cymuned Pontypridd, yn ogystal ag ymwelwyr â'r ardal.

Mae'r Cyngor yn trefnu cyrsiau hyfforddi adfywio cardio-pwlmonaidd a defnyddio diffibriliwr yn rhad ac am ddim yn rheolaidd mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol. Gall weithredu'n gyflym helpu i achub bywyd rhywun. Daeth hyn i'r amlwg mewn gêm yn ystod pencampwriaeth Ewro 2020 ym mis Mehefin.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth: "Mae modd i ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg, a phan fydd yn digwydd, mae pob eiliad yn bwysig.

Mae modd i ddiffibrilwyr achub bywydau ac mae'n declyn amhrisiadwy i unrhyw un sy'n rhoi cymorth cyntaf. Mae diffibrilwyr bellach wedi'u lleoli ledled Rhondda Cynon Taf ac mae modd i unrhyw un sydd â'r hyfforddiant priodol eu gweithredu.

“Hoffai’r Cyngor ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Pontypridd am eu haelioni wrth godi arian a sicrhau'r diffibriliwr yma'n rhodd. Nid yn unig y mae offer achub bywyd o'r fath yn bwysig ac o fudd mawr i'r clwb ei hun, ond hefyd i'r llu o glybiau, grwpiau, sefydliadau ac unigolion eraill yn y gymuned leol sy'n defnyddio'r cyfleuster chwaraeon a hamdden gwych yma ar gael pêl-droed y 'Maritime'.

MeddaiNigel Wheeler, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Pontypridd: “Roedd pob ffan o bêl-droed yn pryderu wrth wylio'r hyn a ddigwyddodd ym mhencampwriaeth Ewro 2020, pan ddioddefodd chwaraewr drawiad ar y galon wrth chwarae’r gêm yr oedd yn ei charu cymaint.

“Roedd Clwb Pêl-droed Pontypridd wedi cael crys gemau rhyngwladol Cymru wedi’i lofnodi yn rhodd gan Aaron Ramsey a phenderfynon ni godi arian hanfodol i brynu diffibriliwr trwy drefnu raffl fawr. Y crys oedd y brif wobr.

“Roedd ein holl chwaraewyr, pwyllgorau, teuluoedd a'n cefnogwyr wedi sicrhau bod y raffl fawr yn llwyddiant ysgubol, ac roedd modd i ni brynu'r diffibriliwr o'r arian a gafodd ei godi.

“Hoffai’r clwb ddiolch i bawb am gefnogi ein menter codi arian. Hebddyn nhw fyddai dim modd i ni wneud rhodd o'r fath. Hoffen ni hefyd ddiolch i'n cefnogwyr am eu teyrngarwch a'u hymrwymiad cyson.

Chwaraeodd Aaron Ramsey i Glwb Pêl-droed Caerdydd yn fachgen ysgol, gan ddod yn chwaraewr tîm cyntaf ieuengaf erioed y clwb a mynd ymlaen i chwarae yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA 2008. Symudodd i Arsenal yn 2008, y flwyddyn y gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf rhyngwladol llawn i Gymru.

Sgoriodd Ramsey y gôl fuddugol i Arsenal yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA 2014 yn erbyn Hull City. Chwaraeodd yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA 2015 lle'r oedd Arsenal yn fuddugol a sgoriodd gôl fuddugol Cwpan yr FA yn 2017. Ymunodd â Juventus yn 2019 ac roedd hefyd yn rhan o garfan lwyddiannus Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016, gan helpu mynd  â'r tîm i'r rownd gynderfynol. Roedd hefyd yn rhan o garfan Ewro 2020 Cymru a chynrychiolodd 'Dîm GB' yng Ngemau Olympaidd 2012.

Mae'r diffibriliwr newydd wedi'i gyflwyno i Gyngor Taf Rhondda Cynon ac mae wedi'i leoli ar y wal ar gael pêl-droed y 'Maritime', Pontypridd.

Wedi ei bostio ar 18/10/2021