Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i gynnal ymchwiliadau tir ar domen Graig Ddu yn ardal Dinas. Bydd y gwaith sy'n cychwyn heddiw yn llywio adolygiad manwl o'r safle ac yn galluogi gwaith monitro ychwanegol ar ben yr archwiliadau rheolaidd parhaus.
Bydd Jackson Drilling Holdings Ltd yn dechrau'r gwaith ymchwilio i'r domen lo hanesyddol o ddydd Llun 25 Hydref. Mae'r domen wedi'i lleoli uwchlaw Heol Graigddu yn ardal Dinas, ac mae'r safle o dan berchnogaeth breifat. Mae'r cynllun sydd ar y gweill wedi'i ariannu trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.
Bydd gwaith cychwynnol yn dechrau heddiw, a bydd ymchwiliadau tir yn cael eu cynnal yn ystod y pedair wythnos nesaf. Bydd angen system 'Stop/Go' i fodurwyr tra bydd y gwaith yn cael ei gynnal o ddydd Llun 1 Tachwedd. Bydd y mesur rheoli traffig yma'n sicrhau llif diogel traffig ar hyd Heol Graigddu.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae rheoli pob hen domen lo yn Rhondda Cynon Taf yn flaenoriaeth i'r Cyngor, a hynny gan gydweithio â rhanddeiliaid allweddol megis Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo. Mae tomen Graig Ddu yn ardal Dinas yn safle y mae angen canolbwyntio'n fwy manwl arno a chynnal gwaith ymchwilio pellach.
“Bydd yr ymchwiliadau tir sydd ar y gweill yn sicrhau bod modd i ni ddeall cyflwr y domen yn well, a bod modd i ni ei monitro yn y dyfodol. Er y bydd angen mesurau rheoli traffig dros y pedair wythnos nesaf, does dim disgwyl i'r gwaith achosi llawer o aflonyddwch yn lleol o ganlyniad i leoliad y domen. Diolch ymlaen llaw i drigolion yr ardal am eu cydweithrediad trwy gydol y gwaith.
“Mae gwaith hefyd yn parhau ar Dirlithriad Tylorstown, gyda chamau dau a thri'r Cynllun Adfer wedi'u cwblhau dros yr haf eleni. Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweirio argloddiau, symud deunydd gwastraff i safleoedd derbyn ac agor dau lwybr trwy'r safle. Mae disgwyl i waith ychwanegol, er mwyn sefydlogi'r llethr uwchlaw'r unig lwybr sydd ar gau, gael ei gwblhau yn ystod yr Hydref eleni.
“Dechreuodd gwaith ar Domen Wattstown (Hen Lofa'r Standard) i amddiffyn wyneb y domen a rheoli'r posibilrwydd am symud eto ar 18 Hydref. Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau diolch i bartneriaeth rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo.”
Wedi ei bostio ar 25/10/2021