Mae datblygiad Llys Cadwyn ym Mhontypridd wedi derbyn Canmoliaeth Fawr yng Ngwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain. Cafodd y wobr ei dyfarnu yn seiliedig ar feini prawf amrywiol, o gyflawni'r prosiect i ymgysylltu â'r gymuned a defnyddio deunyddiau cynaliadwy.
Cyrhaeddodd Llys Cadwyn, datblygiad blaenllaw y Cyngor, sydd werth £38 miliwn, ac a gafodd ei gyflawni mewn partneriaeth â chontractwr Willmott Dixon a phrif ymgynghorwr Hydrock, restr fer categori Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yng ngwobrau mwyaf mawreddog y sector adeiladu yn gynharach eleni.
Wedi'u cynnal gan Sefydliad Peirianyddion Sifil a Pheirianyddion Sifil Newydd, cynhaliwyd Gwobrau 2021 ym mis Hydref, ac roedden nhw’n cydnabod rhagoriaeth prosiectau mewn perthynas â'u dull cyflawni a’u canlyniadau cadarnhaol ar gyfer cymunedau. Roedd y categori Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yn canolbwyntio ar y pum maen prawf yma – canlyniad, cyfeiriad digidol, lleihau carbon, cyd-weithio a 'gwneud yn iawn' (amgylchedd gwaith cadarnhaol a gwerthoedd cryf).
Mae Llys Cadwyn yn ddatblygiad defnydd cymysg â nifer o swyddfeydd sydd wedi trawsnewid safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf yn dri adeilad o'r radd flaenaf. Y Cyngor sydd yn adeilad 1 Llys Cadwyn (ger Stryd y Bont), sy'n cynnwys llyfrgell yr 21ain Ganrif, man cyswllt ar gyfer cwsmeriaid a chanolfan ffitrwydd.
Mae 2 Llys Cadwyn (yr adeilad yn y canol) yn cynnwys gofod swyddfa Gradd A ac uned bwyd/diod, tra bod 3 Llys Cadwyn yn gartref newydd i weithredwr Metro De Cymru, Trafnidiaeth Cymru, siop goffi Bradleys a Gatto Lounge.
Wrth ganmol y prosiect yn fawr, nododd beirniaid Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain y canlynol: “Mae ailddatblygiad Llys Cadwyn yn esiampl o gydweithio, a hynny o ran carfan y prosiect a'r gymuned gyfagos.” Hefyd: “Dangosodd y cleient ddull penderfynol o wireddu'r datblygiad yma. Croesawodd y garfan ei ymdrechion o ran cynaliadwyedd gan sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar gyfer yr ardal leol yn ystod y datblygiad ac ar ôl ei gwblhau.”
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae Llys Cadwyn yn ddatblygiad y mae modd i ni fod yn falch ohono ym Mhontypridd. Cafodd safle strategol ei adnewyddu wrth y porth i'r dref, sydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Mae bellach yn gartref i lyfrgell newydd, canolfan ffitrwydd a man cyswllt ar gyfer cwsmeriaid. Mae wedi gwella mynediad cerddwyr i'r parc ac wedi croesawu Trafnidiaeth Cymru, Bradleys Coffee a Gatto Lounge, sy'n asedau gwych i Bontypridd.
“Rydw i'n falch iawn bod Llys Cadwyn wedi derbyn Canmoliaeth Fawr yn y gwobrau mawreddog cenedlaethol, gan gydnabod gwaith gwych pawb a oedd yn rhan o'r prosiect. Er bod y datblygiad terfynol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, nid tri adeilad newydd yn unig yw'r prosiect. Mae'n braf gweld bod y beirniaid wedi canmol materion megis ymgysylltu â'r gymuned, canolbwyntio ar gynaliadwyedd a defnyddio deunyddiau a gweithwyr lleol.
“Dyma'r ail brif wobr sydd wedi canmol Llys Cadwyn, ar ôl ennill gwobrau mawreddog yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd ym mis Ebrill – gan gynnwys cipio gwobr ‘Enillydd yr Enillwyr’ ar draws pob categori.
Dywedodd Richard Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon: “Rydyn ni'n falch iawn bod panel beirniadu'r gwobrau wedi canmol gwaith ar ddatblygiad Llys Cadwyn. Mae'r datblygiad wedi adnewyddu'r ardal yn sylweddol, gan ailddatgan Pontypridd yn dref strategol bwysig yn y rhanbarth. Bwriad y prosiect oedd cyflawni safon 'rhagorol' BREEAM a chynnwys ynni cynaliadwy yn gyfan gwbl i gynhyrchu gwres a thrydan, o systemau ffotofoltäig (PV) ar y to i un o'r systemau gwres a phŵer cyfun â thanwydd hydrogen cyntaf yng Nghymru.
“Yn ogystal â hyn, mae'r prosiect wedi darparu cyfleoedd hyfforddi a gyrfaoedd i bobl leol, gyda 67% o'r bobl a oedd yn gweithio ar y safle yn byw o fewn 40 milltir i'r prosiect. Mae derbyn Canmoliaeth Fawr yn dyst o ymrwymiad y rheiny a oedd yn rhan o'r prosiect yma.”
Yn ystod gwaith Willmott Dixon ar y cynllun, cynhaliwyd bron i 4,000 wythnos o hyfforddiant, ymgysylltwyd â dros 4,200 o ddisgyblion lleol a gweithiwyd â phobl ifainc trwy ei raglen mentora a recriwtio.
Cyflogodd y cwmni 21.97% o weithwyr y prosiect o ardaloedd o fewn 10 milltir, a 56% o fewn 20 milltir. Roedd 60% o'r deunyddiau wedi'u defnyddio o ffynonellau cyfrifol. Mae'r ganran ar gyfer cynnwys wedi'i ailgylchu mewn deunyddiau, sef 17.34%, hefyd yn rhagori ar ddangosydd perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru (10%).
Wedi ei bostio ar 29/10/21