Yn rhan o Wythnos Democratiaeth Leol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn lansio nifer o achlysuron a gweithgareddau hyrwyddo sydd â'r nod o arddangos y broses wleidyddol yn RhCT, cynyddu ymgysylltiad â'r broses ddemocrataidd a helpu i lunio dyfodol democratiaeth.
Yn y cyfnod cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022, bydd achlysuron ymgysylltu rhithwir yn cael eu cynnal gyda darpar ymgeiswyr a'r rheiny sydd am ddeall y broses ddemocrataidd yn well. Bydd y Cyngor yn ymgysylltu â phleidleiswyr iau trwy ffug gyfarfodydd hybrid yn ei Siambr, yn ogystal â lansio ei adran 'Democratiaeth' ar ei wefan gyda chynnwys diwygiedig. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y broses ddemocrataidd a sut i ddod yn Gynghorydd.
Mae Aelodau cyfredol Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn ymddangos mewn fideo sy'n rhoi gwybod am 'Rôl Cynghorydd'. Mae'r tudalennau gwe hefyd yn nodi bwriad clir y Cyngor i fod yn 'Gyngor Amrywiol'.
Er mwyn hyrwyddo democratiaeth ymhellach, bydd y Cyngor yn cyhoeddi ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn bo hir i gryfhau ymgysylltiad y cyhoedd â'r broses ddemocrataidd.
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi mynd ati'n rhagweithiol i ddarlledu cyfarfodydd Pwyllgor yn fyw ar y we, gan gynnwys cyfarfodydd y Cabinet.
Bydd y gwaith hyrwyddo yn cynnwys egluro pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio, annog dadl, cynnig cyngor ac amlinellu'r prosesau democrataidd y mae'r Cyngor yn eu gweithredu, gan ddangos sut y gall cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd helpu i lunio'r dyfodol. Bydd manylion yr achlysuron yma'n cael eu cyhoeddi yn y man.
Meddai'rCynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cyngor bob amser wedi croesawu ymgysylltiad â thrigolion y Fwrdeistref Sirol ac mae'n bwysig cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ein bod ni'n annog hyn. Felly, pa ffordd well na thrwy Wythnos Democratiaeth Leol.
“Nod yr achlysuron a’r mentrau rydyn ni wedi’u trefnu yw gwella ein cyfleoedd ymgysylltu, helpu unrhyw ddarpar ymgeiswyr sy'n gobeithio sefyll mewn etholiad, yn ogystal â rhoi'r adnoddau iddyn nhw wneud hynny. Dyma obeithio hefyd y bydd yr ymgyrch yn rhoi tân ym mol pobl ifainc y Fwrdeistref Sirol i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a gweld pa mor bwysig yw eu pleidlais wrth lunio'r dyfodol.
"A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n falch o'n hymrwymiad i fod yn Gyngor Amrywiol. Po fwyaf cynrychioliadol yw ein Cynghorwyr, y gorau oll fydd eu dealltwriaeth o anghenion y gymuned leol, sy'n eu rhoi mewn gwell sefyllfa i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau."
Wedi ei bostio ar 12/10/21