Skip to main content

Llwyddiant yng Ngwobrau Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin logo

Mae gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad gweithlu'r blynyddoedd cynnar Cyngor Rhondda Cynon Taf trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cael eu cydnabod yn swyddogol yng Ngwobrau Cenedlaethol Mudiad Meithrin.

Mae Cylchoedd Meithrin cyfrwng Cymraeg y Cyngor ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol, gan groesawu plant bach sy'n byw yn lleol, beth bynnag fo iaith y cartref.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae'n wych bod staff cylchoedd chwarae Cylchoedd Meithrin y Cyngor yn cael eu cydnabod am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud bob dydd gyda phlant ifainc ein cymunedau.

“Mae gwaith y Cylchoedd Meithrin yn hynod o bwysig. Maen nhw'n cefnogi ein dysgwyr ieuengaf trwy gyfrwng y Gymraeg, gan helpu i ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws ein Bwrdeistref Sirol.

“Llongyfarchiadau enfawr i bawb a fu’n ymwneud â chylchoedd chwarae Cylchoedd Meithrin.”

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg: “Hoffwn i longyfarch pob Cylch Meithrin a'u gweithluoedd ledled Rhondda Cynon Taf am y gwasanaeth maen nhw'n ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg i'n plant ifanc yn Rhondda Cynon Taf.

“Dyma ddechrau'r daith gyffrous i'r plant bach yma sydd yn nghamau cynnar plentyndod, ac rydw i wrth fy modd bod Gwobrau blynyddol Mudiad Meithrin wedi cydnabod gwaith ein grwpiau lleol ac unigolion ein lleoliadau'r blynyddoedd cynnar.

“Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol i ni i gyd, ond aeth ein gweithwyr hanfodol ati i gynnal y gwasanaeth yn ystod y pandemig. Dyma ffordd wych o gydnabod eu hymrwymiad ac ymroddiad i sector y blynyddoedd cynnar."

Mae'r Cylchoedd Meithrin yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau. Maen nhw'n ysbrydoli datblygu trwy chwarae, gan baratoi'ch plentyn ar gyfer datblygu iaith yn y dyfodol drwy fod yn ddwyieithog o oedran cynnar.

Cynhaliwyd seremoni Gwobrau Cenedlaethol Mudiad Meithrin yn Theatr y Werin, Aberystwyth. Tynnwyd sylw at waith y sector gofal plant cyfrwng Cymraeg a gwaith y rheiny sy'n gweithio yn y sector, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant ifanc.

Yng nghategori Cylch Meithrin De-ddwyrain Gwobrau Mudiad Meithrin 2021, aeth y tair prif wobr i gylchoedd yn Rhondda Cynon Taf – Cylch Meithrin Evan James, Pontypridd, yn gyntaf: Cylch Meithrin Camau Cyntaf Llanhari yn ail; Cylch Meithrin Nant Dyrys, Ynys-wen, yn drydydd.

Cafodd Karlie Jo Davies (Cylch Meithrin Penderyn) ei hanrhydeddu yn y categori Cynorthwy-ydd a chafodd Cylch Meithrin Beddau ei anrhydeddu yn y categori Pwyllgor.

Derbyniodd Mudiad Meithrin enwebiadau ar gyfer staff a gwirfoddolwyr Cylchoedd Meithrin neu feithrinfeydd oriau dydd ledled Cymru mewn naw categori penodol, gan ddathlu eu gwaith ardderchog.

Rhagor o wybodaeth am Gylchoedd Meithrin (URL link)

https://meithrin.cymru/

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: "Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i ni gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad. Roedd hi’n hyfryd cael cyfle i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru.”

Sefydlwyd Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin yn flaenorol) yn 1971 er mwyn cynnal tirwedd gyfoethog o brofiadau chwarae a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i blant o’r crud hyd oedran ysgol.

Fel mudiad gwirfoddol sy’n angerddol ynglŷn ag annog a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg, mae'r sefydliad wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd ac yn parhau i ddylanwadu’n gadarnhaol ar fywydau plant yn Rhondda Cynon Taf, ac yng Nghymru gyfan.
Wedi ei bostio ar 14/10/21