Skip to main content

Atafael miliwn o sigaréts anghyfreithlon

Mae miliwn o sigaréts anghyfreithlon, a allai fod gwerth dros £200,000 ar y stryd, wedi'u hatafael yng Nghymru yn rhan o ymgyrch sylweddol i fynd i'r afael â masnach dybaco anghyfreithlon y wlad.

Cafodd y garreg filltir yma ei chyrraedd gan garfanau Safonau Masnach Cymru a gymerodd ran yn Ymgyrch CeCe, sef menter barhaus gan sefydliad Safonau Masnach Cenedlaethol ar y cyd â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon.

Wrth gynnal cyrchoedd ledled Cymru, gan gynnwys yn Rhondda Cynon Taf, cafodd 1,039,046 o sigaréts a 3,377.6 o fagiau o dybaco rholio â llaw eu hatafael. Byddai hyn gwerth £286,782.30 ar y farchnad anghyfreithlon, ac fel arall byddai'r arian yma wedi leinio pocedi gangiau troseddol.

Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Rwy’n falch iawn o'r hyn y mae Ymgyrch CeCe wedi'i chyflawni, sef tynnu miliwn o sigaréts oddi ar ein strydoedd.

“Byddai llawer o’r sigaréts a gafodd eu hatafael wedi dod i feddiant plant a phobl ifainc yng nghymunedau tlotaf Cymru, sy’n cael eu targedu gan droseddwyr sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon.”

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru:

“Mae'r farchnad dybaco anghyfreithlon yn golygu bod modd i blant a phobl ifainc gael gafael ar dybaco rhad. Mae hefyd yn tanseilio'r holl waith da sy'n cael ei gynnal i atal pobl rhag ysmygu ac yn amlach na pheidio, mae gyda'r fasnach dybaco anghyfreithlon gysylltiadau cryf â gweithgarwch troseddol.

“Mae angen i ni sicrhau bod tybaco ddim yn cyrraedd ein plant. Mae cynhyrchion tybaco rhad yn ei gwneud hi'n haws i blant ddechrau ysmygu, gan eu bod nhw'n cael eu gwerthu am bris arian poced gan droseddwyr sydd ddim yn becso am y gyfraith na gwerthu i bobl dan oed.”

Yn ôl Safonau Masnach Cymru, mae 8% o bobl ifainc 15 a 16 oed yng Nghymru yn ysmygu'n rheolaidd. Dydy'r ffigur yma ddim wedi gostwng ers 2013. Mae tua 6,000 o blant yng Nghymru yn dechrau ysmygu bob blwyddyn a bydd tri o bob pedwar o'r plant hynny yn mynd ymlaen i ysmygu yn y tymor hir.

Mae mynd yn gaeth i ysmygu yn dechrau yn ystod plentyndod, ac yn ôl arolwg diweddar gan ASH Cymru, roedd 76% o ysmygwyr yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar eu sigarét gyntaf cyn eu bod nhw'n 18 oed.

Meddai Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH Cymru:

“I lawer o blant, bydd prynu eu paced cyntaf o sigaréts anghyfreithlon yn ddechrau ar daith gydol oes o fod yn gaeth iddyn nhw. Bydd yn dinistrio eu hiechyd, yn arwain at dlodi ac yn y pen draw yn eu lladd.

“Mae dileu’r fasnach yma'n rhan hanfodol o leihau nifer yr achosion o ysmygu yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 18% o boblogaeth Cymru sy'n oedolion yn ysmygu, gan achosi dros 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

“Rydyn ni'n croesawu unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i gael gwared â thybaco anghyfreithlon o’n cymunedau a dyma obeithio y bydd hyn yn parhau i fod yn rhan o unrhyw strategaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd Cymru.”

Ers lansio'r ymgyrch ym mis Ionawr 2021 mae Safonau Masnach a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi bod yn casglu gwybodaeth ynghyd am gangiau troseddol y farchnad dybaco ac mae rhagor o gyrchoedd ar y gweill ledled Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Mae modd ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 neu fynd i http://crimestoppers-uk.org i roi gwybod iddyn nhw os ydych chi o'r farn bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Mae modd i'ch gwybodaeth helpu i gadw'ch cymuned yn ddiogel ac yn iach.

 

Wedi ei bostio ar 13/10/21