Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno ar gynnal ymgynghoriad dau gam ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd achlysuron wyneb yn wyneb yn dychwelyd i'n cymunedau eleni, ar y cyd â defnyddio dull digidol ar wefan newydd Dewch i Siarad.
Ddydd Llun 18 Hydref, argymhellodd adroddiad i'r Cabinet y dylai'r Aelodau gytuno ar ddefnyddio dull ymgynghori ar-lein, yn ogystal ag ailgydio mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb gan fod cyfyngiadau'r Coronafeirws bellach ar Lefel Sero.
Mae'r broses ymgynghori ar gyllideb y Cyngor yn cael ei chynnal bob blwyddyn, ac yn y gorffennol mae wedi cynnwys nifer fawr o drigolion a rhanddeiliaid allweddol. Wrth wneud hyn, caiff yr Uwch Swyddogion a'r Cabinet ystod enfawr o safbwyntiau ar wasanaethau'r Cyngor. Mae hyn yn helpu i lywio'r broses o bennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Oherwydd y pandemig, mabwysiadodd y Cyngor ddull 'digidol yn bennaf' o ymgysylltu â thrigolion y llynedd er mwyn sicrhau cadw pellter cymdeithasol. Er gwaethaf hyn, cymerodd dros 1,000 o bobl ran yn yr ymgynghoriad.
Bellach wedi ei gytuno gan y Cabinet, bydd yr ymgynghoriad ar gyllideb 2022/23 yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio dull digidol, gan ddefnyddio platfform ymgysylltu newydd y Cyngor, sef 'Dewch i Siarad'. Cafodd hyn ei gyflwyno'n llwyddiannus ar gyfer y sgwrs barhaus am y newid yn yr hinsawdd. Mae'n bwysig nodi y bydd cyfleoedd hefyd i bobl gymryd rhan mewn ffyrdd traddodiadol, i'r rheiny sydd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu ddim mynediad o gwbl.
Bydd cam un yn para am chwe wythnos yr hydref yma – gan ddechrau ddydd Llun, 25 Hydref. Bydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau buddsoddi, lefelau Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd. Bydd tudalen ymgynghori bwrpasol yn fyw ar wefan Dewch i Siarad RhCT ddydd Llun, a fydd yn cael ei hyrwyddo gan y Cyngor gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd cam dau yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd, a bydd yn gofyn i drigolion am eu barn ar strategaeth y gyllideb, a fydd yn cael ei ddrafftio ar ôl cam un.
Bydd y Cyngor hefyd yn ymgysylltu â grwpiau allweddol fel y Grŵp Cynghori ar Bobl Hŷn, Cylchoedd Trafod Pobl Ifainc Rhondda Cynon Taf, ysgolion a cholegau, y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad, y Pwyllgor Cyd-Gysylltu â'r Gymuned, y Cylch Trafod Materion Anabledd a grwpiau'r Lluoedd Arfog/Cyn-filwyr.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno ar fanylion dull y Cyngor o ymdrin â'r ymgynghoriad ar gyllideb 2022/23. Dyma obeithio y bydd modd i ni barhau â'n hanes rhagorol o gyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau rhoi cyfle i holl drigolion a defnyddwyr gwasanaethau ddweud eu dweud a rhoi eu hadborth i ni.
“Mae'r platfform ar-lein Dewch i Siarad eisoes wedi profi ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn rhyngweithiol wrth i ni gynnal ein sgyrsiau am y newid yn yr hinsawdd. Ar gyfer yr ymgynghoriad ar y gyllideb, bydd gwybodaeth, dogfennau, fideos ac arolygon allweddol i gyd i'w gweld ar y platfform, a bydd pob cam o'r ymgynghoriad hefyd yn cael ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Serch hynny, ar y cyd â'r dull digidol yma, bydd cyfleoedd pwysig i'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd gymryd rhan hefyd.
“Rwy’n falch iawn bod modd i ni ailgydio mewn achlysuron wyneb yn wyneb yn y gymuned, lle caiff trigolion gyfle i siarad ag Uwch Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet yn uniongyrchol. Mae hyn wedi bod yn rhan allweddol o'n proses ymgysylltu yn y gorffennol, a bellach mae modd i ni gwrdd â phobl unwaith eto gan fod cyfyngiadau'r Coronafeirws wedi'u llacio. Bydd dulliau ymgysylltu traddodiadol eraill yn cael eu defnyddio hefyd, gan gynnwys ffonio pobl, arolygon ar bapur, ymatebion drwy'r post a dogfennau 'hawdd eu darllen'.
“Mae penderfyniad y Cabinet ddydd Llun wedi sicrhau y bydd dull cynhwysfawr y Cyngor o ymgysylltu â thrigolion yn parhau gyda’i ymgynghoriad ar gyllideb 2022/23, felly dyma annog trigolion i achub ar y cyfle i ddweud eu dweud.”
Wedi ei bostio ar 22/10/2021