Skip to main content

BYDDWCH YN WYRDD yn ystod Calan Gaeaf eleni!

Ysbrydion, gwrachod a newid yn yr hinsawdd – dyma ambell i beth fydd yn codi ofn yn ystod Calan Gaeaf eleni.

Mae disgwyl i arweinwyr o bob cwr o'r byd gwrdd ar gyfer COP26 yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Mae Calan Gaeaf yn gyfnod perffaith i fod yn WYRDD a bod yn effro i ganlyniadau erchyll peidio ag ailgylchu!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w drigolion fynd yn wyrdd a llenwi eu cadis/biniau gwastraff bwyd gyda bwyd parti dros ben yn hytrach na'i anfon i'r safle tirlenwi. 

Mae gwastraff bwyd yn cyfrannu at 8-10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac er nad oes modd bwyta rhai eitemau, megis croen llysiau a phlisg wyau, mae modd eu hailgylchu nhw yn rhan o'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol AM DDIM yn RhCT.

Cofrestrwch i ailgylchu gwastraff bwyd, yma: www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Bob blwyddyn, mae dros filiwn o bwmpenni'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae 99% o'r rhain yn cael eu defnyddio i gerfio llusernau.

Bydd miloedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol hefyd yn cerfio pwmpenni, trochi am afalau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau brawychus yn eu cartrefi.

Tra bo cerfio pwmpenni yn weithgaredd hwyl, mae'r Cyngor yn atgoffa ei drigolion bod modd rhoi'r tu mewn i'r pwmpenni sy wedi'u cerfio, a hefyd cragen y bwmpen a gwastraff trochi am afalau, yn y bin gwyrdd gwastraff bwyd yn barod i'w gasglu ar ôl Calan Gaeaf.

 

Mae ailgylchu yn dod yn rhan o drefn feunyddiol ein cartrefi drwy gydol y flwyddyn ac mae am barhau. Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd o ran ei chyfraddau ailgylchu.

 

Mae dros 34,400 tunnell o ddeunydd ailgylchu wedi'u casglu o ymyl y pafin yn RhCT ers mis Ionawr 2021, mae hynny'n ddigon o ddeunydd ailgylchu i lenwi 8,600 o loriau ailgylchu 4 tunnell!

 

Mae ailgylchu'n weithred arferol yng Nghymru erbyn hyn, ac mae 92% ohonon ni'n ailgylchu yn rhan o'n trefn feunyddiol. Rydyn ni'n ailgylchu ffrwythau a chroen llysiau, plisg wyau, bagiau te a'r gwastraff sydd ar ôl ar ein platiau yn ein biniau bwyd; gan ailgylchu eitemau o bob ystafell, gan gynnwys yr ystafell ymolchi a'r ystafell wely, yn ogystal ag eitemau anodd eu hailgylchu fel poteli 'aerosol'.

 

Mae'r cynllun ailgylchu bwyd yn mynd o nerth i nerth, gyda rhagor o drigolion yn dweud eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae 20% o'r gwastraff rydyn ni'n ei gasglu bob mis yn wastraff bwyd. Mae 7,600 tunnell wedi'i gasglu ers mis Ionawr.

 

Mae'r Cyngor, yn rhan o'i ymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i gynyddu cyfraddau ailgylchu, wedi cyhoeddi newid i'r ffordd y mae'n casglu gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu yn ddiweddar. Bydd yn cyflwyno sachau gwyrdd mae modd eu hailddefnyddio a thrwy hynny'n lleihau ei ddefnydd o blastig o tua 3 miliwn o fagiau ailgylchu clir bob blwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion gofrestru ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd i'r criwiau osgoi teithiau diangen a lleihau ôl troed carbon cyffredinol y Cyngor.

 

Mae modd i drigolion gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM yn gyflym ac yn ddidrafferth ar-lein trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. Os nad oes modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd o 1 Tachwedd.

 

Mae sachau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma am y sach yn unig.

 

Yn 2020 casglodd y Cyngor dros 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion!

 

Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i gael gwared ar eich hen bethau!

Beth am glirio'r garej neu'r ystafell sbar ac atgyfodi eitemau a rhoi bywyd newydd iddyn nhw trwy fynd â nhw i Y Sied yn Llantrisant neu Dreherbert, neu'u hailgylchu yn un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf.

Drwy fynd â'ch hen eitemau i un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, byddwch chi'n sicrhau bod yr eitemau sy'n cael eu hailgylchu yn cael eu troi yn drysorau newydd. Pwy a ŵyr, efallai eich hen focs teganau fydd y cylchgrawn nesaf i chi ei brynu. Byddwch chi hefyd yn gwneud lle yn eich tŷ.

Cofiwch ddidoli'ch gwastraff cyn mynd â fe i'r Ganolfan, gan nad oes modd derbyn eitemau cymysg.

Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n hapus i gynghori trigolion ar faterion ailgylchu a'u cynorthwyo i gael gwared ar eu deunydd cartref.

O ddydd Iau 1 Tachwedd bydd y Canolfannau Ailgylchu yn gweithredu oriau agor y gaeaf o 8am tan 5.30pm.

 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i deuluoedd fwynhau eu hunain. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl wastraff ychwanegol.

 

"Mae cefnogaeth ein trigolion tuag at ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd wedi bod yn rhyfeddol hyd yma, a hoffwn i ddiolch i bawb sy'n byw yn ein Bwrdeistref Sirol am chwarae rhan.

 

"Y newyddion gwych yw bod rhagor o'n trigolion yn meddwl yn wyrdd bob dydd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth o hyn. Rydyn ni'n gofyn i bob gwrach ac ysbryd mawr a bach ailgylchu eu gwastraff dros gyfnod Calan Gaeaf eleni."

 

Mae'n haws nag erioed i chi ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnal casgliadau diderfyn ac mae gyda ni amrywiaeth o leoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae modd i chi fynd atyn nhw i gasglu eich bagiau ailgylchu! Mae modd i chi archebu bagiau a chofrestru ar gyfer gwasanaethau gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau ar-lein. Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar draws y Fwrdeistref Sirol ar agor 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 8am a 7.30pm (Mawrth - Hydref) ac 8am - 5.30pm (Tachwedd - Mawrth). 

 

Mae modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref ar gyfartaledd - sy'n golygu bod modd ailgylchu 8 allan o bob 10 bag o sbwriel sy'n dod o gartrefi, a'u troi yn rhywbeth newydd.  

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 25/10/21