Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymestyn Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT cyn i'r Cyngor fabwysiadu fersiwn wedi'i diweddaru y flwyddyn nesaf. Mae llwyddiant y Strategaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod 501 o gartrefi gwag bellach yn cael eu hailddefnyddio.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun 18 Hydref, cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth. Mae'r Strategaeth gyfredol – ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 a 2021 – yn nodi sut mae'r Cyngor yn mynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag. Mae'r Aelodau bellach wedi cytuno i'w hymestyn tan fis Mawrth 2022, gan nodi bod Strategaeth wedi'i diweddaru yn cael ei datblygu gan Swyddogion i'w rhoi ar waith yn ystod mis Ebrill 2022.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yma a'r deilliannau llwyddiannus o dan y Strategaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, er gwaethaf y pandemig.
Mae'r amcanion i helpu i leihau nifer y cartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf yn cynnwys creu partneriaethau, gwneud y mwyaf o gyllid a nodi modelau pellach, a defnyddio ystod o ymyriadau yn erbyn perchnogion eiddo. Maen nhw hefyd yn cynnwys cynnal gwaith ymchwil yn y gymuned i ganfod pam mae nifer y cartrefi gwag yn uchel, a cheisio atebion i atal cartrefi rhag dod yn wag.
Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi cyflawni 1,144 o ymyriadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf (uwchlaw'r targed o 400 y flwyddyn), gan olygu bod modd defnyddio 501 o gartrefi gwag eto. Mae yna ystod o ymyriadau, gan gynnwys camau gorfodi, cyhoeddi cyngor neu arweiniad, a helpu gyda grantiau neu fenthyciadau.
Mae'r camau gweithredu yma wedi golygu bod nifer gyffredinol y cartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng o 3,556 (Ebrill 2017) i 2,870, sef gostyngiad o 19% neu 686 o gartrefi gwag. Mae'r ffigurau yma'n gyfuniad o'r rheiny sy'n deillio o waith y Cyngor a'r cartrefi gwag hynny sydd wedi'u prynu'n breifat.
Mae'r adroddiad yn nodi'r camau gweithredu dros y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y gwelliant yma. Roedd hyn yn cynnwys y Cyngor yn nodi 684 o'r cartrefi gwag a oedd yn peri'r drafferth fwyaf yn yr hirdymor, a chanolbwyntio ar gynnal gwaith gorfodi a galluogi ar y cartrefi hynny, gan eu bod wedi eu cofnodi yn eiddo gwag ers 2014. Derbyniodd 510 o'r rhain archwiliadau a chafodd llythyrau o gynnig cymorth eu hanfon at bob perchennog neu, os oedd eu hangen, amlinelliad o gamau gorfodi.
At ei gilydd, mae 297 o'r cartrefi yma'n cael eu defnyddio eto. Hefyd, mae 91 o gartrefi gwag ychwanegol bellach yn cael eu defnyddio eto, a hynny heb orfod cynnal ymyriad, ers mis Ebrill 2018. Dyma pan gyflwynodd y Cyngor bolisi bod perchnogion cartrefi sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor yn Rhondda Cynon Taf ddim yn derbyn unrhyw ostyngiad ar eu bil Treth y Cyngor.
Mae'r benthyciad Troi Tai'n Gartrefi sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn i'r rheiny sydd am rentu neu werthu eu cartrefi ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu arnyn nhw. Erbyn mis Ebrill 2021, mae 126 o fenthyciadau (cyfanswm o £3.7 miliwn) wedi'u cymeradwyo, gan greu 175 o gartrefi o eiddo gwag dan berchnogaeth breifat.
Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain ar Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd gwerth £10 miliwn. Mae hyn ar gael i ddarpar berchnogion sy'n bwriadu byw mewn cartref gwag a'i ddefnyddio'n brif breswylfa am o leiaf bum mlynedd. Ym mis Mawrth 2021, daeth 941 o geisiadau dilys i law o bob rhan o Gymru. Roedd 494 ohonyn nhw o ardal Rhondda Cynon Taf. Roedd hyn wedi sicrhau ymrwymiad o £5.5 miliwn yn lleol.
Yn olaf, mae 22 o gartrefi gwag bellach yn cael eu defnyddio eto drwy gynllun Homestep a Mwy, a hynny ar y cyd â Chymdeithas Tai Unedig Cymru. Mae eiddo yn ardal cod post CF37 yn cael ei brynu a'i adnewyddu o dan y Cynllun yma, ac yna'n cael ei werthu i brynwyr tai tro cyntaf ar 70% o werth y farchnad.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Roedd y newyddion am y gostyngiad yn nifer y cartrefi gwag yn Rhondda Cynon Taf yn galonogol iawn wrth i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ddydd Llun. Rhaid diolch i Swyddogion y Cyngor am eu hymrwymiad i'r gwaith yma wrth weithredu Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae'r mater yma'n parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, gan fod llawer o anfanteision yn perthyn i gartrefi gwag dan berchnogaeth breifat. Maen nhw'n costio arian i'r perchnogion a'r Cyngor ac mewn llawer o achosion maen nhw'n gyfle wedi'i golli i ddarparu tai fforddiadwy yn lleol. Mae cartrefi gwag hefyd yn fwy tebygol o gael eu gadael i ddirywio, sy'n gwneud i gymunedau edrych yn annymunol.
“Rwy’n falch iawn bod 501 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto oherwydd ymyriadau'r Cyngor – p'un a yw hynny wrth gynnig cyngor a chymorth i berchnogion, wrth eu helpu i gael gafael ar gyllid, neu drwy gymryd camau gorfodi. Mae cyflwyno cyfraddau Treth y Cyngor llawn ar gyfer eiddo gwag hefyd wedi cyflawni'r nod o annog perchnogion i'w defnyddio nhw eto. Mae'r ffactorau yma wedi helpu i wella pethau'n cyffredinol, gyda 686 yn llai o gartrefi bellach yn wag.
“Mae nifer o gynlluniau a mentrau y mae'r Cyngor yn chwarae rhan allweddol ynddyn nhw wedi helpu â llwyddiant y Strategaeth, gan gynnwys y benthyciad Troi Tai'n Gartrefi, Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd a Chynllun Homestep a Mwy. Hefyd, gyda dros 40 o berchnogion eiddo yn mynychu Cylch Trafod Landlordiaid RhCT yn rheolaidd, mae'n gyfle gwych i'r Cyngor ymgysylltu â landlordiaid, rhannu gwybodaeth a chydweithio.
“Cytunodd Aelodau’r Cabinet ag argymhellion yr adroddiad, sef ymestyn Strategaeth gyfredol Cartrefi Gwag RhCT tan fis Mawrth 2022, er mwyn bod yn barod i weithredu fersiwn wedi’i diweddaru o’r Strategaeth yn ystod mis Ebrill 2022.”
Wedi ei bostio ar 20/10/2021