Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau Rybudd Tywydd Melyn ar gyfer Rhondda Cynon Taf, oherwydd rhagor o law trwm. Bydd y rhybuddion ar waith o 9pm ddydd Gwener 29 Hydref i 9am ddydd Sadwrn 30 Hydref, a chanol nos ddydd Sadwrn 30 Hydref i 3pm ddydd Sul 31 Hydref.
Mae hyn dilyn glaw trwm parhaus dros y diwrnodau diwethaf, ac mae'n bosibl y bydd yn achosi amodau gyrru gwael, tarfu ar drafnidiaeth gyhoeddus a pherygl llifogydd mewn rhai lleoedd. Y cyngor i yrwyr yw i ganiatáu amser ychwanegol i deithio yn ystod cyfnod y ddau rybudd.
Os bydd problemau gyda chi dros y penwythnos, ffoniwch ein rhif mewn argyfwng y tu allan i oriau sef 01443 425011.
Unwaith eto, bydd gan y Cyngor swyddogion ac adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau dros y penwythnos. Bydd y Cyngor hefyd yn monitro cylfatiau dros y penwythnos a bydd yn clirio malurion os bydd angen.
Wedi ei bostio ar 29/10/21