Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae tomennydd glo yn parhau i fod yn graith ar dirwedd Cymoedd De Cymru ac yn ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol sy'n parhau hyd heddiw. Serch hynny, mae effaith newid yn yr hinsawdd a'r tywydd garw rydyn ni wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at y problemau a'r risgiau parhaus maen nhw'n eu peri.
“Mae'r Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo yn rhan o'r tasglu i sicrhau bod modd mynd i'r afael â'r sgil-effaith yma a diogelu lles y cymunedau yma yn y dyfodol. Rwy gant y cant o blaid galwad y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i Gymru dderbyn ei chyfran deg o'r cyllid er mwyn mynd i'r afael â'r mater yma mewn modd effeithiol.
“Yn hanesyddol mae tomennydd glo wedi bod yn gyfrifoldeb Gweinidogion Llywodraeth y DU – roedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn gorff cenedlaethol ac mae’r Awdurdod Glo presennol yn parhau i fod yn gorff cenedlaethol – ac mae hwn yn amlwg yn fater oedd yn bodoli cyn y setliad datganoli yma yng Nghymru.
“Mae'n ymddangos bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dweud y dylai’r cyllid – o dan Fformiwla a ddylai gael ei ddyrannu i ysgolion, y GIG a Gwasanaethau Cyngor yng Nghymru – gael ei ddefnyddio i ariannu’r costau enfawr sy’n gysylltiedig â’r tomennydd yma. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n awgrymu na fyddai’r gost ariannol i wneud tomennydd glo yn fwy diogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o unrhyw drefniadau ariannu trwy fformiwla ganlyniadol Barnett.
“A 40% o’r holl domennydd yng Nghymru, mae’r broblem yn bodoli ledled y DU ac rydw i o'r farn bod hwn yn fater sydd angen un dull gweithredu cydgysylltiedig gyda Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru ar y mater yma. Trefniant sy'n cael ei ariannu'n ganolog yw'r unig ffordd i ddatrys y sgil-effeithiau yma (sy'n dyddio'n ôl i gyfrifoldebau cyn-Weinidogion Llywodraeth y DU) mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae'r gwaith adfer ar safle tirlithriad Tylorstown, er enghraifft, yn brosiect peirianneg sifil mawr a chymhleth, sy'n cael ei gyflawni mewn camau, gyda chost amcangyfrifedig o oddeutu £20 miliwn. Mae angen lefel sylweddol o gyllid, ac am un prosiect yn unig rydyn ni'n sôn yma. Ledled Cymru, mae gyda ni dros 2,000 o domennydd glo gyda lefelau risg amrywiol.
“Bydd newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau ar ein tywydd yn parhau i herio ein cymdeithas, fodd bynnag, gyda chyllid digonol bydd modd i ni leihau'r effeithiau yma ar yr hen domennydd.
“Byddwn i felly yn annog Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r cyfle sydd wedi'i ddarparu gan yr Adolygiad o Wariant i fynd i’r afael â'r mater tomennydd glo yng Nghymru.”