Skip to main content

Gwella a mabwysiadu saith ffordd breifat yn rhan o brosiectau peilot y Cyngor

Belle Vue in Trecynon is one of the roads included in the pilot project

Belle Vue, Trecynon

Er mwyn cyflawni gwelliannau i'r priffyrdd, mae'r Cabinet wedi cytuno ar brosiectau peilot i wella saith ffordd breifat, gan gynnwys un o’r lleoliadau yn rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru. Yn dilyn y gwaith, bydd pob ffordd yn cael ei mabwysiadu'n barhaol gan y Cyngor.

Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Medi, trafododd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn cynnig gwneud gwaith ar saith stryd yn y Fwrdeistref Sirol, yn rhan o raglen beilot. Y saith stryd yw; Rhes y Glowyr yn Llwydcoed, Maes Aberhonddu yn Aberaman, Heol Penrhiw yn Aberpennar, Teras Ochr y Bryn yn Llwynypïa, Teras Trafalgar yn Ystrad, Clos y Beirdd yn Rhydfelen a Belle View yn Nhrecynon.

Mae'r lleoliadau yma i gyd yn ffyrdd preifat. Mae'r Cyngor o'r farn bod cyflwr y ffyrdd yma'n anfoddhaol a bod angen gwaith i'w gwella nhw. Mae'r gwelliannau'n amrywio o lefelu'r ffordd i osod cerrig gwastad, ynghyd â gwaith carthffosiaeth, sianelu a gosod goleuadau stryd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi pŵer i Gynghorau wella strydoedd preifat i safon foddhaol, ac yna'u mabwysiadu'n briffyrdd i'w cynnal trwy drethi'r cyhoedd. Mae amrywiaeth o strydoedd preifat yn bodoli; o lwybrau troed a lonydd cefn i ffyrdd sy'n rhoi mynediad i gartrefi preifat.

Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai'r Cyngor fuddsoddi £250,000 mewn peilot ar gyfer chwe chynllun (Rhes y Glowyr, Maes Aberhonddu, Heol Penrhiw, Teras Ochr y Bryn, Teras Trafalgar a Chlos y Beirdd) - gan gynnwys £50,000 wrth gefn ar gyfer materion sy'n debygol o godi oherwydd bod ansawdd a seilwaith y ffyrdd yn anhysbys.

Mae'r Cyngor hefyd wedi llwyddo i sicrhau £157,000 gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i dreialu prosiectau fel hyn. Bydd y dyraniad yma'n cael ei wario ar gam cyntaf y gwaith yn Belle View a bydd y Cyngor yn gwneud cais am ragor o gyllid ar gyfer y camau nesaf os bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru'n parhau.

Gan fod Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ati â'r chwe chynllun sydd wedi'u hariannu gan y Cyngor a'r cynllun ychwanegol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd yr holl waith wedi'i gwblhau yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Yn dilyn hynny, bydd pob ffordd yn cael ei mabwysiadu.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i fuddsoddi cyfanswm o £407,000 i wella saith ffordd breifat y mae’r Cyngor wedi penderfynu sydd mewn cyflwr gwael yn y Fwrdeistref Sirol, a chytuno hefyd i’w mabwysiadu yn dilyn y gwaith. Rydyn ni'n croesawu cyllid y cynllun peilot, gwerth £157,000 gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer un o’r cynlluniau, gyda’r chwech arall yn cael eu hariannu trwy adnoddau presennol y Cyngor.

“Rydyn ni'n gwybod bod cynnal a chadw ffyrdd preifat yn broblem gyffredin i drigolion ac i Awdurdodau Lleol, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y 18 mis diwethaf yn rhan o weithgor i edrych ar y materion ehangach ledled Cymru. Bydd yr arian sydd wedi'i sicrhau gan y Cyngor yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y problemau sy'n dod i’r amlwg yn y maes yma. Byddwn ni'n adrodd yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn sgil eu cynllun peilot yn ôl i'r Llywodraeth.

“Bydd gwaith y Cyngor mewn chwe lleoliad arall yn rhedeg ochr yn ochr â hyn, ac yn llywio prosiect peilot ar wahân. Rydw i wedi ymweld â phob lleoliad dros yr haf, ac maen nhw wedi cael eu dewis am fod angen gwahanol fathau o ymyrraeth ar bob un. Bydd yr amrywiaeth yma o waith yn helpu ni i ddeall y mathau o waith y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol os bydd buddsoddiad pellach ar gael ar gyfer ffyrdd preifat. Ges i hefyd gyfle i siarad â thrigolion a derbyn adborth gwerthfawr am y materion sy'n eu hwynebu.

“Bydd penderfyniad y Cabinet nawr yn caniatáu i’r Cyngor arfer ei bwerau i wella’r ffyrdd dan berchnogaeth breifat yn Llwydcoed, Aberaman, Aberpennar, Llwynypïa, Ystrad, Rhydfelen a Threcynon, er budd trigolion lleol.”

Wedi ei bostio ar 22/09/2021