Mae ymgyrch newydd ar waith gan Maethu Cymru, sef, rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, sydd â nod o gael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc ar draws y wlad.
Oes gennych chi'r rhinweddau priodol i fod yn rhiant maeth yn Rhondda Cynon Taf, gan agor y drws i gyfleoedd ar gyfer pobl ifainc yr ardal?
Cyfleoedd maethu yn Rhondda Cynon Taf
Gyda thros draean (39%) o oedolion Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried dod yn rhiant maeth, nod yr ymgyrch newydd a lansiwyd ledled Cymru yw cynyddu nifer y rhieni maeth lleol – a'r amrywiaeth yn eu plith – yn sylweddol.
Ledled y wlad, mae pob plentyn sydd angen rhiant maeth o dan adain gofal ei Awdurdod Lleol. Nod yr ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, sy'n cynrychioli Rhondda Cynon Taf a'r 21 o garfanau maethu yr Awdurdodau Lleol dielw eraill sy'n rhan o rwydwaith 'Maethu Cymru', yw cynyddu nifer y rhieni maeth sydd eu hangen i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan mae hynny'n iawn iddyn nhw.
Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr ac yn golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Gwasanaethau i Blant: “Mae dod yn rhiant maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw. I gredu ynddyn nhw. Plant sydd angen rhywun ar eu hochr, rhywun i'w caru.
“Mae angen denu tua 550 o rieni maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn o hyd. Mae hyn er mwyn bodloni'r galw o ran nifer y plant sydd angen gofal a chefnogaeth, wrth gymryd lle rhieni maeth sy'n ymddeol neu sy'n darparu cartref parhaol i blant.
“Rydyn ni’n gobeithio croesawu llawer mwy o bobl leol i faethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan bob plentyn hawl i ffynnu, y cyfan sydd ei angen arnon ni yw mwy o bobl i agor eu drysau a'u croesawu nhw. ”
Wrth lansio Maethu Cymru ym mis Gorffennaf, Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS: “Rwy’n gwybod o wrando ar rieni maeth pa mor werth chweil y gall maethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal ac yn caniatáu i dimau maethu a recriwtio Awdurdodau Lleol ledled Cymru feddwl yn ehangach, gan greu effaith genedlaethol heb golli eu mantais o arbenigedd lleol penodol.
“Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau nifer y plant mewn gofal, gwella canlyniadau plant sy’n cael gofal, ac yr un mor bwysig, dileu elfen elw.
“Mae Maethu Cymru yn rhan o gyflawni’r addewid hwn a bydd yn galluogi plant i aros yn eu cymuned a diwallu anghenion esblygol plant maeth a’r bobl sy’n eu maethu.”
“Mae pob plentyn yn wahanol, a gwahanol felly mae'r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw yn ogystal. Does dim teulu maeth 'nodweddiadol'. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu'n rhentu, p'un a yw'n briod neu'n sengl. Beth bynnag fo'u rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun ar eu hochr. "
I gael rhagor o wybodaeth am faethu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i https://rhct.maethucymru.llyw.cymru/
Wedi ei bostio ar 29/09/21