Bydd cam cyntaf y gwaith i atgyweirio'r Bont Dramiau Haearn ger Tresalem yn dechrau'r wythnos yma. Bydd yr Heneb yn cael ei hadfer yn sympathetig oddi ar y safle ac yna'n cael ei hailosod y flwyddyn nesaf.
Roedd y bont mewn cyflwr gwael cyn Storm Dennis, a chafodd ddifrod pellach yn ystod y stormydd digynsail ym mis Chwefror 2020. Mae ffensys diogelwch wedi'u gosod o amgylch y strwythur a'r ardal gyfagos ac mae ei Hawl Tramwy Cyhoeddus dros yr afon yn parhau i fod ar gau.
Mae'r Cyngor yn effro i arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol y bont ac mae wedi gweithio gydag ymgynghorwyr allanol i ddylunio cynllun adfer cydymdeimladol. Derbyniodd ganiatâd Heneb Restredig ar gyfer y cynllun gan Cadw eleni.
Ym mis Awst, penododd y Cyngor gontractwr (Walters Ltd) a chyhoeddodd linell amser dros dro. Mae'n bosibl bydd y llinell amser yn newid. Mae'r cam cyntaf (hyd at fis Tachwedd) yn cynnwys dymchwel rhan uchaf ategweithiau'r bont yn rhannol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i symud prif drawstiau'r bont ac atgyweirio'r difrod sgwrfa i'r ategweithiau.
Ar ôl hyn, bydd prif drawstiau'r bont yn cael eu hatgyweirio oddi ar y safle, a fydd neb yn gweithio ar y safle ei hun (hyd at wanwyn 2022). Bydd y cam olaf yn cynnwys ailosod y bont a'r ategweithiau, ac ailagor yr Hawl Tramwy Cyhoeddus ar draws y bont (haf 2022).
Bydd y gwaith ar gam un y llinell amser yn cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 27 Medi, ar yr amod bod tywydd teg a bod lefelau'r afon yn parhau i fod yn isel.
Er mwyn parhau â'r gwaith yn ddiogel o ddydd Llun, 4 Hydref, mae'n bosibl bydd cerddwyr sy'n defnyddio'r llwybr troed a'r llwybr beicio a rennir gyfagos yn cael rhywfaint o oedi wrth ddefnyddio'r llwybr. Bydden nhw'n cael eu cyfarwyddo gan fanciwr fydd yn gyfrifol am y safle.
O ddydd Gwener, 15 Hydref, bydd y llwybr beicio cyfagos ar gau am gyfnod o oddeutu mis. Mae hyn er mwyn caniatáu symud trawstiau'r bont a gwneud y gwaith atgyweirio i'r ategwaith yn ddiogel. Bydd llwybr amgen ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn dilyn arwyddion ar hyd Stryd y Felin, Stryd y Gloch a Stryd Meirion.
Yna bydd y llwybr yn cael ei ailagor ar ôl datgymalu'r bont, gan fydd y gwaith o atgyweirio'r strwythur yn digwydd i ffwrdd o'r safle (cam dau'r cynllun). Bydd y llwybr yn parhau i fod ar agor am y misoedd nesaf nes bod y bont yn barod i gael ei dychwelyd a'i hailosod yn ystod 2022 (cam tri).
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rydw i'n falch ein bod ni wedi cyrraedd tirnod mawr wrth gyflawni’r cynllun atgyweirio cymhleth yma i’r Bont Dramiau Haearn. Bydd gwaith tuag at gam cyntaf y gwaith atgyweirio'n cychwyn yr wythnos yma. Mae hyn wedi dilyn gwaith agos gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cadw, i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r gwaith yma'n gywir.
“Er mwyn cyflawni'r gwaith, fydd dim modd osgoi rhywfaint o anghyfleustra i ddefnyddwyr y llwybr troed a rennir ger y bont dros yr wythnosau nesaf. Bydd mân oedi yr wythnos nesaf, ond bydd angen cau'r llwybr yn gyfan gwbl o 15 Hydref er mwyn bwrw ymlaen yn ddiogel ag agweddau allweddol o'r gwaith - gan gynnwys symud prif drawstiau’r bont. Ar ôl cwblhau'r gwaith yma, bydd y llwybr yn ailagor tan y flwyddyn nesaf, wrth i'r gwaith atgyweirio i'r bont gael ei wneud oddi ar y safle oherwydd eu natur arbenigol.
“Mae cynnal a chadw strwythurau yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, sy'n gyfrifol am fwy na 1,500 o bontydd, cylfatiau a waliau ar draws Rhondda Cynon Taf. Dyrannwyd cyllid sylweddol ar gyfer y cynllun yma yn y Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd gwerth £25.025 miliwn ar gyfer 2021/22. Cytunodd y Cabinet yr wythnos diwethaf ddyrannu swm unwaith ac am byth ychwanegol o £500,000 yr un i strwythurau Priffyrdd a Pharciau. Mae hyn ar ben y cyllid sylweddol ar gyfer atgyweirio isadeiledd mewn cymunedau yn dilyn Storm Dennis.
“Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gynnydd parhaus yn y gwaith o atgyweirio'r Bont Dramiau Haearn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, wrth i ni weithio’n galed i atgyweirio ac adfer yr heneb."
Wedi ei bostio ar 29/09/2021