Mae'r Cyngor wedi lansio ei Sgwrs ddiweddaraf am yr Hinsawdd - Dewch i Siarad am Gerbydau Trydan, ac mae angen i CHI'r cyhoedd gymryd rhan yn y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan newydd a rhoi'ch barn ar sut y gall pob un ohonon ni chwarae rhan yn yr 'Argyfwng Hinsawdd.'
Eisoes, mae cannoedd o drigolion a busnesau lleol wedi ymuno yn ein sgwrs ar-lein 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT' ers iddi gael ei lansio yn gynharach eleni. Mae llawer hefyd wedi ymweld â'n Hachlysuron Cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan roi eu barn ar bethau fel sut mae modd i'r Cyngor lunio ei gynlluniau 'Gwyrdd' ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys datblygu darpariaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol a Chadeirydd Grŵp Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: “Ers i Argyfwng Hinsawdd gael ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi addo cymryd camau brys i liniaru risgiau Newid yn yr Hinsawdd.
“Mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen newidiadau sylfaenol i'r ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau, ac o'r herwydd, mae wedi ymrwymo i ddod yn Awdurdod Lleol Sero Net erbyn y dyddiad targed o 2030.
Mae'r defnydd o gerbydau trydan yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae rhagamcanion yn nodi y bydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn berchen ar oddeutu 8,000 o gerbydau trydan erbyn 2030.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo arwain y ffordd wrth hwyluso dulliau trafnidiaeth cynaliadwy a chefnogi ei drigolion, busnesau ac ymwelwyr i'r Fwrdeistref Sirol, sydd angen seilwaith addas i wefru eu cerbydau er mwyn byw eu bywydau bob dydd.
"Yn ogystal â dal ati i drafod Newid yn yr Hinsawdd, mae hi bellach hefyd yn bryd i ni weithredu yn y maes yma. Os ydych chi wir yn poeni am ardal brydferth Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n eich annog chi i ymuno â ni wrth i ni 'Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT'.
“Mae mwy na 240,000 o bobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf a chyda'n gilydd gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth wneud gwahaniaeth i'r byd rydyn ni'n byw ynddo.”
Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd ceir a faniau petrol a disel newydd yn cael eu dileu'n raddol o 2030. Mewn ymateb i hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru. Mae'r strategaeth yn cynnig y bydd holl ddefnyddwyr ceir a faniau yng Nghymru yn hyderus bod modd iddyn nhw gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fo angen, a hynny erbyn 2025.
Yn hynny o beth, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn lansio ei Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan, i amlinellu sawl egwyddor allweddol a fydd yn grymuso'r Cyngor i roi cyngor, help a chymorth i unigolion, neu bartïon, sy'n dymuno newid o gerbydau confensiynol i gerbydau trydan.
Nod y Strategaeth yw nodi pam mae angen gweithredu a nodi deilliannau clir, cydgysylltu dull sy'n cael ei weithredu ar hyd y Fwrdeistref Sirol, hyrwyddo ac annog datblygu rhwydwaith cadarn ac ymarferol ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Bydd hefyd yn annog pobl i newid o ddefnyddio cerbydau petrol a disel i ddefnyddio cerbydau trydan yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor.
Yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth yma bydd y Cyngor yn llunio Cynllun Gweithredu. Bydd hyn yn gweithredu fel map i hysbysu unigolion a/neu sefydliadau o'r llwybr priodol i'w gymryd wrth osod seilwaith ar gyfer cerbydau trydan a darparu canllawiau arfer gorau, arweiniad ymarferol a gwybodaeth berthnasol ynghylch cyllid a deddfwriaeth.
Roedd 1,086 o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn wedi'u trwyddedu yn Rhondda Cynon Taf ar ddiwedd chwarter cyntaf y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae 13 o ddyfeisiau gwefru cerbydau trydan o bob cyflymder hefyd ar gael i'r cyhoedd yn y Fwrdeistref Sirol. Mae rhagamcanion yn nodi y bydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn berchen ar oddeutu 8,000 o gerbydau trydan erbyn 2030.
Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor.
Ymunwch â'r Sgwrs am yr Hinsawdd
Wedi ei bostio ar 07/09/2021