Skip to main content

Gwelliannau ysgol gwerth sawl miliwn o bunnoed

Man hammering a nail into a wall

Tra bydd disgyblion a staff yn mwynhau gwyliau'r haf, bydd y Cyngor yn mynd ati i gwblhau gwaith gwella mewn ysgolion ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y Cyngor mewn Addysg.

Mae gwelliannau gwerth dros £4 miliwn yn cael eu gwneud yn ysgolion Rhondda Cynon Taf yn rhan o Raglen Cyfalaf arfaethedig y Cyngor. Mae'r gwaith yn cynnwys ailweirio trydanol, adnewyddu ceginau a neuaddau bwyta, ailosod ffenestri a drysau, uwchraddio larymau tân, adnewyddu toiledau, ailosod boeleri ac adnewyddiadau to.

Mae £3.5 miliwn arall o Raglen Cyfalaf Cynnal a Chadw a Thrwsio Ychwanegol y Cyngor hefyd yn cael ei glustnodi ar gyfer prosiectau mewn ysgolion lleol dros yr haf, gan gynnwys sicrhau awyru gwell, canopïau allanol newydd i greu ardaloedd dysgu awyr agored, toiledau a mannau hylendid newydd, gwaith toi, atgyweiriadau cyffredinol i adeiladwaith, uwchraddio ystafelloedd dosbarth i gyrraedd safon Ysgolion yr 21ain Ganrif a gosod drysau a ffenestri allanol newydd.

Mae mwy na 150 o brosiectau wedi'u clustnodi mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf, a bydd llawer ohonyn nhw wedi'u cwblhau cyn dechrau'r Flwyddyn Academaidd newydd.

Mae cyfleusterau cegin a bwyta yn cael eu hailfodelu neu'u hadnewyddu yn Ysgol Gynradd Coed Y Lan (£80,000); Ysgol Gynradd Penyrenglyn (£30,000); Ysgol Iau Tonpentre (£30,000); Ysgol Gyfun Treorci (£100,000) ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen (£30,000).

Mae ffenestri a drysau yn cael eu hadnewyddu yn Ysgol Gynradd Alaw (£120,000); Ysgol Gyfun Aberpennar (£50,000) ac Ysgol Gymuned Porth (£30,000).

Mae gwaith trydanol yn cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Coed Y Lan (£44,000); Ysgol Gynradd Llanhari (£45,000); Ysgol Gynradd Llwydcoed (£25,000); Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain (£17,000); Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg (£52,000); Ysgol Gynradd Trehopcyn (£42,000).

Mae £700,000 hefyd wedi'i fuddsoddi mewn gosod canopïau allanol mewn ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol i greu ardaloedd i eistedd a dysgu yn yr awyr agored.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae angen rhaglen barhaus o waith yn adeiladau ein hysgolion i ddelio â chyflwr yr adeiladau a materion iechyd a diogelwch ar draws ein hysgolion er mwyn sicrhau bod adeiladau ysgol yn ddiogel, yn dal dŵr ac yn gynnes.

“Mae cyfanswm o £7.170 miliwn wedi’i ddyrannu i Raglen Cyfalaf y Cyngor (mân waith) ar gyfer 2021/22. Bydd parhad y Rhaglen Gyfalaf dreigl dair blynedd a chynnal lefel y cyllid yn parhau i wneud gwelliannau sylweddol i ansawdd adeiladau ein hysgolion ac mae wedi bod yn rhan hanfodol o raglen foderneiddio ysgolion y Cyngor, er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer y Cwricwlwm Cymru newydd.

“Mae'r Cyngor yma, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi cefnogi ysgolion i fodloni Canllawiau gweithredol Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi bod yn heriol, o ystyried natur amrywiol safleoedd ac adeiladau ein hysgolion.

“Mae rhai o’n hysgolion mewn sefyllfa well i ddarparu ar gyfer y protocolau diogelwch gofynnol nag eraill oherwydd oed, dyluniad a math yr adeiladau sydd gyda ni yn ein portffolio, ac o ganlyniad rydyn ni wedi wynebu heriau o ran darparu lleoedd hyblyg, ardaloedd cylchredol digonol, ardaloedd wedi'u hawyru'n dda a lleoedd addas at y diben i ddysgu yn yr awyr agored.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yma'n sicrhau gwelliannau i'r amgylchedd ddysgu, yn ogystal â sicrhau ein bod yn darparu lleoedd wedi'u hawyru'n dda a gwell ardaloedd awyr agored, sy'n caniatáu i ddisgyblion symud o amgylch adeilad yr ysgol yn ddiogel wrth gadw at y canllawiau diogelwch.

“Un o ymyriadau mwyaf llwyddiannus y Cyngor mewn ysgolion dros y flwyddyn anodd ddiwethaf fu darparu canopïau awyr agored. Cafodd y rhain eu defnyddio'n effeithiol ar gyfer addysgu a dysgu ac maen nhw'n cynnig gofod allanol ychwanegol, hollbwysig, gan dynnu'r pwysau oddi ar yr amgylchedd dan do. Mae'r Cyngor yn awyddus i ailadrodd y llwyddiant yma a darparu mwy fyth o ddarpariaeth yn ein hysgolion.”

Mae'r Cyngor yn parhau i gyflwyno'r rhaglen wella a moderneiddio hirdymor ar gyfer ysgolion i gefnogi Blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor: 'Ffyniant - creu'r cyfle i bobl a busnesau fod yn arloesol, yn entrepreneuraidd ac i gyflawni eu potensial a ffynnu.'

Mae'r cyllid yn rhan o raglen ehangach gwerth £597.2 miliwn y Cyngor, #BuddsoddiadRhCT. Bydd y gwaith yma'n gwella ansawdd ysgolion y Cyngor. Mae hyn yn rhan allweddol o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd cwblhau'r prosiectau yma'n golygu y bydd y Cyngor wedi buddsoddi dros £35 miliwn mewn gwaith gwella cyfalaf ers 2015/16, ac mae hyn yn ychwanegol at y dros £200 miliwn o welliannau a gyflawnwyd hyd yma trwy'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Bydd y newyddion diweddaraf ynglŷn â rhaglen gwella ysgolion y Cyngor yn ymddangos ar dudalen Facebook a Twitter y Cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wedi ei bostio ar 01/09/21