Skip to main content

Lansio Gwefan 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I'

My-Day-My-way-SM-WELSH

Mae'r Cyngor wedi lansio gwefan newydd i ymgysylltu â phobl ag anableddau dysgu - gan ddarparu cyfle iddyn nhw drafod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac argymell ffyrdd o wella gwasanaethau cyfredol y Cyngor ar eu cyfer.

Bydd gwefan 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I' yn cael ei lansio heddiw, ddydd Llun, 6 Medi, a'i nod fydd trin a thrafod nifer o themâu a gweithgareddau dros yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn gyfle i bobl sydd ag anableddau dysgu - yn ogystal â'u rhieni a chynhalwyr - i ddysgu rhagor am wasanaethau cyfredol a llenwi cyfres o arolygon sy'n canolbwyntio ar chwe thema. Rydyn ni eisoes wedi dechrau trin a thrafod y thema gyntaf, sef 'Dewisiadau a Phenderfyniadau'.

I weld rhagor, ewch i:

Cliciwch yma i weld fersiwn Hawdd ei Ddarllen:

Mae'r wefan yn dilyn penderfyniad Aelodau'r Cabinet ym mis Gorffennaf i gynnal ymgysylltiad ehangach dros y misoedd nesaf er mwyn helpu i lywio strategaeth newydd o ran gweithgareddau oriau dydd. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl leol i lywio opsiynau buddsoddi ar gyfer y dyfodol, a fydd yn gwella'r gwasanaethau dyddiol sydd ar gael yn ein cymunedau, ac yn diwallu anghenion pobl leol yn well.

Yn ystod mis Awst bu'r Cyngor yn gweithio gyda Pobl yn Gyntaf Cwm Taf i gynnal Sioe Deithiol 'Beth sy'n Bwysig i Fi Nawr' 2021. Roedd hwn yn gyfle i'r elusen gwrdd â phobl sydd ag anableddau dysgu wyneb yn wyneb mewn achlysuron yn Ystrad Rhondda ac Aberdâr, yn ogystal â chynnal achlysur ar Zoom.

Cafodd cyfres o weithdai difyr eu cynnal er mwyn dod i ddeall beth sy'n bwysig i bobl ag anableddau dysgu o fewn y gymuned, yn ogystal â chlywed am eu profiadau yn ystod y pandemig ac am yr hyn maen nhw'n ei feddwl o'r ddarpariaeth gyfredol yn ystod oriau dydd.

Byddwn ni'n llwytho arolygon wythnosol ar y wefan (bydd y nesaf yn cael ei lwytho ar 13 Medi), yn ogystal â chwe thema i'w trin a'u trafod hyd at ddiwedd mis Hydref. Mae modd llenwi arolygon ar-lein, wyneb yn wyneb, mewn sesiwn Zoom a thros y ffôn. Mae modd i chi ofyn am gopi papur hefyd, a bydd fersiynau Hawdd eu Darllen o'r holl gynnwys ar gael.

Bydd y wefan hefyd yn cynnwys nifer o fideos - gan bobl sydd ag awtistiaeth neu anabledd dysgu, eu rhieni a'u cynhalwyr. Byddan nhw'n yn disgrifio'r broses ymgysylltu ac yn cyflwyno pob thema. Mae'r wefan hefyd yn darparu dolenni i gymorth gan bartneriaid hefyd, gan gynnwys gwefannau, fideos a gwybodaeth bellach.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Nod gwefan newydd 'Fy Niwrnod I, Fy Newis I' yw bod yn adnodd gwerthfawr i bobl sydd ag anableddau dysgu, eu rhieni a'u cynhalwyr. Bydd yn fodd o ymgysylltu'n gyson â nhw er mwyn ein helpu ni i ddeall pa mor effeithiol yw ein gwasanaethau oriau dydd cyfredol, a'r hyn y mae modd i ni ei wella.

“Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i barhau i ymgysylltu â'r gymuned mewn perthynas â’r arlwy oriau dydd cyfredol, sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn helpu i lywio opsiynau'r Cyngor o ran buddsoddi a moderneiddio gwasanaethau yn y dyfodol. Hyd yma, mae wedi dod yn amlwg bod preswylwyr yn gwerthfawrogi'r gwasanaethau sydd ar gael. Serch hynny, mae'r adborth yn awgrymu y dylen ni ganolbwyntio ymhellach ar gynnig cyfleoedd yn y gymuned yn y dyfodol, a hynny er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

“Bydd y wefan yn ganolbwynt o ran ymgysylltu a darparu gwybodaeth, a byddwn ni'n ei diweddaru hi'n gyson dros yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cyfle i breswylwyr roi adborth i ni ar amrywiaeth o themâu. Mae sawl ffordd o gymryd rhan a byddwn i'n annog cynifer o breswylwyr â phosibl i wneud hynny fel bod modd i ni lunio darlun cywir o'u barn a buddsoddi yn y meysydd priodol yn y dyfodol."

Yn ogystal â chysylltu â'r Cyngor trwy'r wefan newydd, mae modd i breswylwyr gysylltu â'r Cyngor yn uniongyrchol i roi eu barn ar wasanaethau oriau dydd cyfredol hefyd. E-bostiwch:  RhaglenDrawsnewidAnableddauDysgu@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 06/09/21