Mae Cabinet Cyngor Taf Rhondda Cynon wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer dynodi tir yng Nghwm Clydach yn Barc Gwledig yn swyddogol.
Mewn cyfarfod Cabinet a gafodd ei gynnal heddiw (ddydd Mawrth, 21 Medi), cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r cynnig mewn perthynas â 166 erw o dir yn Nhonypandy, a elwir ar hyn o bryd yn Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth:
"Rwy’n falch iawn bod y cynigion ar gyfer Parc Gwledig newydd yn ein Bwrdeistref Sirol wedi cymryd cam enfawr yn eu blaen heddiw.
"Mae'r Cyngor eisoes wedi datblygu perthynas waith gyda Chyfeillion Parc Cefn Gwlad Cwm Clydach ac Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian mewn perthynas â datblygiadau yn y dyfodol i'r tir ar safle'r Parc Gwledig arfaethedig a'r cae chwaraeon 3G newydd yng Nghwm Clydach.
"Bydd dynodi'r tir yn Barc Gwledig yn gymorth i'r ddau sefydliad sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i wella a datblygu'r tir ymhellach i drigolion ac ymwelwyr."
Wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda, byddai'r Parc Gwledig newydd yn ategu Parc Gwledig Cwm Dâr yng Nghwm Cynon, gan gynnig cyrchfan arall i dwristiaid yn y Fwrdeistref Sirol. Byddai hefyd o fudd i iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan hyrwyddo treulio amser yn yr awyr agored, a harddwch naturiol eithriadol a bywyd gwyllt yr ardal.
Byddai cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r Parc Gwledig arfaethedig a'r rhanbarth yn ehangach yn fodd i gynyddu nifer yr ymwelwyr â threfi lleol, gan roi hwb i'r economi leol.
Byddai'r Parc Gwledig newydd arfaethedig yng Nghwm Rhondda wedi'i leoli ar hen safle Glofa'r Cambrian, sy'n cynnwys dau lyn a nifer o raeadrau bychain. I'r dwyrain o'r llynnoedd mae'r caffi poblogaidd, Cambrian Lakeside, sydd â maes parcio am ddim i'r cyhoedd, sydd newydd ei ailwynebu.
Mae Cyfeillion Parc Cefn Gwlad Cwm Clydach yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i gynnal a chadw'r ardal, gan godi sbwriel a thrwsio'r ffensys a'r llwybrau. Mae'r ddau grŵp hefyd yn bartneriaid yn y Prosiect Lles Groundwork.
Bydd dynodi'r tir yn Barc Gwledig yn galluogi'r Cyngor a'r Bwrdd Strategol a sefydlwyd yn ddiweddar i wneud cais am gyllid allanol i wella a datblygu'r safle.
Wedi ei bostio ar 22/09/21