Gyda chytundeb y Cabinet, bydd y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Dwristiaeth arfaethedig RhCT i hyrwyddo'r Fwrdeistref Sirol i ymwelwyr, a hynny ar ôl i'r strategaeth gael ei diweddaru gan ddefnyddio adborth ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau 23 Medi, trafododd Aelodau adroddiad Swyddog a amlinellodd adborth yr ymarfer ymgynghori. Hefyd, cyflwynodd yr adroddiad fersiwn ddiweddaraf y strategaeth. Mae'r strategaeth yn ymrwymo i nifer o flaenoriaethau fydd yn cael eu cyflawni dros y blynyddoedd nesaf.
Amlinellodd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Iau dwf y sector twristiaeth dros y blynyddoedd diweddar, cyn i'r pandemig ddechrau. Yn 2019, treuliodd 1.5 miliwn o ymwelwyr ddiwrnod yn Rhondda Cynon Taf ac arhosodd dros 500,000 o ymwelwyr dros nos. Cyfrannodd y sector £179 miliwn at yr economi leol, a thwristiaeth oedd maes dros 2,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae Strategaeth Dwristiaeth RhCT yn targedu pum maes i hyrwyddo'r dirwedd a threftadaeth leol – Cynnyrch ac Atyniadau; Llety; Hygyrchedd, Seilwaith a Chysylltedd; Sgiliau a Chyflogaeth a Phrofiad.
Ei bwriad yw hyrwyddo'r Fwrdeistref Sirol yn gyrchfan i dwristiaid, gan annog ymwelwyr i gymunedau ac atyniadau megis Zip World Tower, Profiad y Bathdy Brenhinol, Lido Cenedlaethol Cymru, Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Mae fersiwn lawn o'r strategaeth ddiweddaraf ar gael i'w gweld yn Atodiad i'r adroddiad i'r Cabinet.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu rhai canfyddiadau allweddol o'r ymgynghoriad pum wythnos a gafodd ei gynnal o 17 Mai 2021. Gofynnwyd i drigolion, perchnogion busnesau ac ymwelwyr am eu sylwadau am y strategaeth ddrafft. Daeth 321 o ymatebion i law, a nododd 55% o'r sawl a ymatebodd eu bod nhw'n drigolion Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd 87% o'r sawl a ymatebodd i'r ymgynghoriad eu bod nhw'n cytuno â gweledigaeth y strategaeth. Wrth ysgrifennu sylwadau i'w cyflwyno'n rhan o'r broses, nododd yr unigolion yma fod gan y Fwrdeistref Sirol ardaloedd o harddwch naturiol gyda llawer o botensial y mae rhaid i ni eu hyrwyddo. Cytunodd 90% mai'r diwylliant, treftadaeth a thirwedd leol yw'n cryfderau allweddol o ran y cynnig twristiaeth, a chytunodd dros 89% ag amcanion pum prif thema'r strategaeth.
Cafodd rhai themâu sylfaenol ychwanegol eu crybwyll – gan gynnwys ychwanegu cartrefi modur at y thema Llety, a phwysigrwydd marchnata a hyrwyddo. Mae'r ystyriaethau yma bellach wedi'u hychwanegu at y strategaeth ddiweddaraf, yn ogystal â ffactorau eraill roedd rhaid eu cynnwys o ganlyniad i ddatblygiadau ers drafftio'r strategaeth, er enghraifft agor Zip World Tower.
Cafodd y strategaeth ddrafft ei thrafod gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad ym mis Gorffennaf 2021, a chytunodd Aelodau i adrodd y strategaeth i'r Cabinet i'w chymeradwyo'n derfynol. Ar ôl trafod yr adroddiad ac adborth yr ymgynghoriad ddydd Iau, cytunodd Aelodau'r Cabinet i gymeradwyo Strategaeth Dwristiaeth RhCT.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rydw i wrth fy modd bod Strategaeth Dwristiaeth RhCT bellach wedi'i chymeradwyo, a bydd yn cael ei mabwysiadu'n ffurfiol i ategu blaenoriaethau ac ymdrechion twristiaeth y Cyngor. Bydd twristiaeth yn un o'n diwydiannau twf allweddol wrth i'r pandemig barhau. Mae pobl yn aros yn lleol ac yn mwynhau gwyliau'n lleol lle na fydden nhw, o bosibl, wedi'i wneud yn y gorffennol.
“Mae dyfodol twristiaeth yn Rhondda Cynon Taf yn addawol. Yn fy marn i, mae aros yn lleol wedi rhoi cyfle i ni i gyd werthfawrogi'r hyn sydd ar ein stepen drws. Rydyn ni wedi gweld atyniad poblogaidd, Zip World Tower, yn agor yn ddiweddar, yn ogystal â'n buddsoddiad ym Mharc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Coffa Ynysangharad. Mae'n amlwg bod gan dwristiaeth sy'n seiliedig ar ein tirwedd a’n treftadaeth botensial mawr.
“Roedd yr adborth a ddaeth i law yn yr ymgynghoriad hefyd yn gadarnhaol iawn, gyda chyfranogwyr yn cytuno â thargedau cyffredinol y strategaeth a'r pum prif thema. Wrth ystyried hyn, cytunodd Aelodau'r Cabinet ag argymhellion Swyddog er mwyn i'r Cyngor fabwysiadu'r strategaeth yn ffurfiol.”
Wedi ei bostio ar 24/09/21