Bydd y rheolau sy'n gorfodi 'dim parthau alcohol' ar strydoedd canol trefi Aberdâr a Phontypridd mewn grym am dair blynedd arall - ar ôl i'r Cabinet gytuno ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) newydd ar ôl ystyried adborth ymgynghori.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 23 Medi, ystyriodd yr aelodau adroddiad gan Swyddog a oedd yn argymell dyddiad cychwyn arfaethedig ar gyfer y PSPO newydd - 1 Hydref, 2021. Mae'n dilyn diwedd cyfnod y Gorchymyn a ddaeth i rym gyntaf ym mis Medi 2018, gyda'r bwriad o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae 'parth dim alcohol' Aberdâr wedi cynnwys canol y dref, safle Sobell a'i gaeau chwarae (Yr Ynys), Gorsaf Reilffordd Aberdâr a Maes Parcio Glofa'r Gadlys. Mae'r parth ym Mhontypridd wedi cynnwys canol y dref, Parc Coffa Rhyfel Ynysangharad, a'r gorsafoedd rheilffordd a bysiau. Mae'r parthau hyn hefyd yn berthnasol i ddefnyddio sylweddau meddwol, nid dim ond alcohol.
Mae hawl gyda Swyddogion Awdurdodedig i fynnu bod person yn ildio'r alcohol sydd yn ei feddiant, a rhoi'r gorau i yfed os ydyn nhw'n achosi, neu'n debygol o achosi, ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y gosb uchaf mae modd ei rhoi am beidio â chydymffurfio yw £100.
Fe ddynododd y Gorchymyn hefyd Rondda Cynon Taf i gyd yn Barth Yfed Wedi'i Reoli i roi pwerau i Swyddogion Awdurdodedig reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Daeth y Gorchymyn i rym am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, ac mae wedi cael ei orfodi ar y cyd gan y Cyngor a Heddlu De Cymru. Ar y cychwyn, ymgyrch farchnata 'Rhoi terfyn ar yfed ar y stryd' y Cyngor oedd yn ei hyrwyddo.
Roedd yr adroddiad yng nghyfarfod dydd Iau, wrth argymell Gorchymyn newydd am dair blynedd arall, hefyd yn cynnig addasiad i barth presennol Pontypridd. Byddai hyn yn gweld yr ardal o amgylch Fflatiau Dyffryn Taf yn y Graig Isaf, yr ardal y tu allan i Dŷ Pennant ym Mhontypridd, a'r ardal danffordd laswelltog ger Gorsaf Fysiau Pontypridd, yn rhan o'r gorchymyn o hyn ymlaen.
Gyda sylwadau gan Heddlu De Cymru ac Aelodau Etholedig Lleol, mae'r ardaloedd hyn ar ffiniau'r parth presennol ym Mhontypridd ac fe'u nodwyd fel mannau problemus ar gyfer yfed ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau a fyddai'n elwa o gael eu cynnwys.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y PSPO ym mis Hydref 2020, a gynhaliwyd ar-lein yn bennaf oherwydd y pandemig. Mae adroddiad dydd Iau hefyd yn cynnwys crynodeb o'r adborth a ddaeth i law. Cwblhawyd cyfanswm o 134 o holiaduron gan aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae 86% o ymatebwyr yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol fel problem ar draws Aberdâr a Phontypridd, a dywedodd 69% eu bod yn ymwybodol o'r PSPO yn yr ardaloedd. Dywedodd 54% o'r ymatebwyr fod y PSPO wedi neu'n debygol o gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn y Sir. Mae crynodeb llawn o'r ymatebion ar gael fel Atodiad i adroddiad y Cabinet ddydd Iau.
Cytunodd Aelodau o'r Cabinet â'r argymhellion yn yr adroddiad - i gyflwyno Gorchymyn newydd am dair blynedd, o Hydref 2021. Mae hyn yn cynnwys cadw'r Parth Yfed Wedi'i Reoli sy'n berthnasol i ardal gyfan Rhondda Cynon Taf, a'r 'parthau dim alcohol' ar gyfer strydoedd canol trefi Aberdâr a Phontypridd - gyda pharth Pontypridd wedi'i ehangu i gynnwys y tair ardal newydd.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Diwylliant: “Cyflwynwyd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus dair blynedd yn ôl i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, gyda rheolau penodol yn targedu Canol Trefi Aberdâr a Phontypridd. Mae'r PSPO yn bwriadu cyfrannu at wneud canol ein trefi a'n cymunedau ehangach yn lleoedd cyfeillgar a chroesawgar.
“Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y Cabinet, mae’r PSPO yn offeryn defnyddiol i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth fel ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac mae gan y Cyngor gysylltiadau cadarn sydd wedi'u hen sefydlu â Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth eraill wrth ymateb i faterion o’r fath. Mae Carfan Cymunedau Diogel RhCT hefyd yn trafod gyda phartneriaid i ddatblygu proses adrodd symlach felly mae'n haws i'r cyhoedd roi gwybod am achosion o yfed ar y stryd. Mae hwn yn fater â blaenoriaeth, er mwyn rhoi mwy o hyder i bobl sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
“Mae ffigurau’n dangos bod canol trefi Aberdâr a Pontypridd yn parhau i weld y cyfraddau uchaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol rhwng 2017/18 a 2020/21, hyd yn oed yn ystod hyd oes y Gorchymyn cyfredol - gan awgrymu bod ei gadw yn parhau i fod yn bwysig ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi hefyd, dros y tair blynedd diwethaf, bod y mwyafrif helaeth o'r unigolion y mae swyddog awdurdodedig wedi cysylltu â nhw wedi cydymffurfio â'r cais i roi'r gorau i yfed.
“Ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad, y data diweddaraf yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol, a’r cynigion i ymestyn parth Pontypridd i dair ardal arall, mae Aelodau o’r Cabinet wedi cytuno ar holl argymhellion y Swyddogion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Felly bydd y PSPO yn cael ei weithredu dros y tair blynedd nesaf, o Hydref 2021.”
Wedi ei bostio ar 27/09/21