Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei drydydd Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiad manwl diweddaraf yn canolbwyntio ar y llifogydd, y parodrwydd ar eu cyfer a'r ymateb yng nghymuned Cilfynydd.
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Llifogydd Arweiniol Lleol roi adroddiad ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd mewn digwyddiadau llifogydd difrifol. Yn dilyn ei ymchwiliad i 28 lleoliad a effeithiwyd gan Storm Dennis (15-16 Chwefror, 2020), bydd y Cyngor yn llunio cyfanswm o 19 adroddiad.
Yn ystod mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd y ddau adroddiad gyntaf - Adroddiad Trosolwg yn manylu ac yn dadansoddi'r glawiad, cyrsiau dŵr a lefelau afonydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod Storm Dennis, ynghyd ag adroddiad ar wahân yn canolbwyntio'n benodol ar y llifogydd difrifol ledled ardal Pentre.
Mae'r adroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd ddydd Llun, 20 Medi, yn canolbwyntio ar Gilfynydd (Ardal Ymchwilio Llifogydd RhCT 10). Mae'r adroddiad yn nodi bod 23 eiddo preswyl a dau eiddo masnachol wedi'u heffeithio gan lifogydd. Yn ogystal, cafwyd llifogydd ar y briffordd.
Mae'r adroddiad ar gael i'w weld yn llawn ar wefan y Cyngor, yma.
Mae'r adroddiad wedi cael ei lywio gan arolygiadau a wnaed gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ystod y dyddiau yn dilyn Storm Dennis, yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan breswylwyr, Carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water. Y Cyngor yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a'r Awdurdod Draenio Tir.
Mae'r adroddiad yn sefydlu, o'r dystiolaeth a gasglwyd, mai prif ffynhonnell y llifogydd yng Nghilfynydd yn ystod Storm Dennis oedd y dŵr ffo sylweddol yn llifo dros y tir i lawr o'r llechweddau serth uwchben y pentref. Llifodd glaw trwm i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd llawer o'r rhain eu llethu gan gyfaint y dŵr a'r malurion.
Adolygwyd addasrwydd y tri chilfach cwlfert y gwyddys eu bod wedi achosi llifogydd i eiddo. Cadarnhawyd bod cilfach cwlfert Nant Cae Dudwg wedi cael ei gorlwytho'n hydrolig, tra roedd gan rwydweithiau Heol Mynydd a Nant Elái amddiffyniad safonol o hyd at ddigwyddiad storm unwaith mewn 100 mlynedd.
Roedd gan y ddwy gilfach ddigon o allu i reoli'r llifoedd disgwyliedig, ond cafodd rhwystrau effaith andwyol sylweddol ar eu gallu i wneud hyn - gan arwain at lifogydd mewn sawl eiddo. Ystyrir bod cyflwr strwythurol gwael rhwydwaith Nant Elái hefyd wedi cyfrannu at y llifogydd ar Heol Pont Siôn Norton.
Mae'r Cyngor, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi ymateb drwy gymryd 12 cam. Mae'r rhain yn cynnwys clirio'r strwythurau cilfach cwlfert a nodwyd; arolygu, jetio a glanhau tua 1,229 metr o'r rhwydwaith cylfatiau yn ardal yr ymchwiliad; arwain ar ddatblygu Ystafell Reoli ganolog i gydlynu ymateb brys i ddigwyddiadau llifogydd yn y dyfodol; a chychwyn ar brosiect i gynnig gatiau llifogydd y gellir eu hehangu i eiddo risg uchel.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnig ymgymryd ag wyth cam arall, a cheisio deall y dalgylch uwchben ardal yr ymchwiliad yn well trwy ddatblygu Achos Busnes Amlinellol Strategol. Bydd hyn yn darparu cyfres o argymhellion i liniaru'r perygl llifogydd yng nghymuned Cilfynydd.
Mae adroddiad yn nodi bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Daw i'r casgliad bod Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau yn foddhaol. Mae camau pellach wedi cael eu cynnig i wella'r parodrwydd a'r ymateb yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei drydydd adroddiad Adran 19 o ganlyniad i Storm Dennis - yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Trosolwg ac adroddiad sy'n benodol i ardal Pentre yn ystod mis Gorffennaf 2021. Mae'r adroddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar Gilfynydd, ac unwaith eto mae'n ddogfen fanwl a hygyrch i'r cyhoedd.
“Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar nifer o feysydd, o hanes llifogydd yng Nghilfynydd, i'r glawiad yn Storm Dennis a methiant cilfach cwlfert Nant Cae Dudwg ynghyd â rhwydweithiau Heol Mynydd a Nant Elái. Mae hefyd yn rhestru'r 12 cam a gymerwyd gan y Cyngor ers Storm Dennis a'r wyth cam y mae'n bwriadu eu cymryd yn y dyfodol. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod y Cyngor, fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol, wedi cyflawni ei ddyletswyddau mewn ffordd foddhaol.
“Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud gwaith lliniaru llifogydd ar draws Rhondda Cynon Taf. Bydd yn canolbwyntio ar leoliadau sydd mewn perygl o lifogydd. Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn y maes yma fel blaenoriaeth. Rydyn ni'n ceisio cyllid allanol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi ein hymdrechion - wrth gymryd camau pwysig i gynyddu ein parodrwydd ymhellach ar gyfer digwyddiadau storm yn y dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 21/09/21