Skip to main content

Cefnogi ein Cymuned y Lluoedd Arfog a Theuluoedd Gwasanaeth Milwrol

Katie-Gibby

Mae merch arwr Rhyfel y Falklands a gafodd ei ladd pan fomiwyd llong y Sir Galahad bron i 40 o flynyddoedd yn ôl yn dweud ei bod yn ddiolchgar i Wasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor, ac i grŵp Valley Veterans, am y cymorth parhaus mae hi'n ei gael.

Mae'r Gwasanaeth i Gyn-filwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, ac i'w teuluoedd. Mae teuluoedd gwasanaeth milwrol yn teithio gyda'u hanwyliaid yn aml, gan ymgartrefu yng nghymunedau gartref a thramor. Mae nifer wedi colli anwyliaid sydd wedi'u lladd ar wasanaeth gweithredol.

Roedd Katie Gibby, sy'n byw yng Nghwm Rhondda, yn 5 mis oed pan aeth ei thad, Mark Gibby o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, i ryfel. Ddaeth e ddim adref. Fe oedd un o'r 48 o ddynion, y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig, a gafodd eu lladd pan ymosododd jetiau'r Ariannin ar y llong ar 8 Mehefin, 1982.

Er nad oes ganddi unrhyw atgofion personol o'i thad, mae Katie, sy'n fam i ddau o blant, yn dweud ei bod wedi dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a'i bod yn ddiolchgar am y cymorth mae'n ei gael. Hoffai hefyd ymweld ag Ynysoedd y Falklands yn y dyfodol i dalu'r deyrnged olaf.

MeddaiKatie Gibby, 39 oed: “Rydw i bob amser wedi bod yn frwdfrydig am unrhyw beth sy'n ymwneud â'r Lluoedd Arfog ac rydw i mor falch o'm tad a roddodd ei fywyd i'w wlad ac i bobl Ynysoedd y Falklands ar y diwrnod trychinebus hwnnw. Roedd yn 22 oed.

“Rydw i wedi profi llwyth o emosiynau a galar trwy gydol fy mywyd, er nad oeddwn i'n adnabod fy nhad yn dda – dyma fath arall o alaru. Mae Valley Veterans a Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor wedi bod o gymorth mawr i fi.

“Roedd Paul Bromwell, o Valley Veterans, yn ffrind i'm tad, ac mae clywed ei storïau a’i atgofion ohono yn gysur mawr i fi. Nid grŵp cymorth yn unig yw Valley Veterans, rydyn ni'n deulu. Unwaith eich bod chi'n rhan o deulu cyn-filwr, rydych chi'n rhan o deulu am byth.

“Er fy mod i'n aelod o deulu cyn-filwr, nid yn gyn-filwr fy hun, mae'r Gwasanaeth i Gyn-filwyr wrth law i gynnig cymorth i fi bob amser. Mae'r gwasanaeth ar gael i lawer o bobl, a byddai nifer ohonyn nhw ar goll heb ei arweiniad.

“Fy mreuddwyd i yw mynd i Ynysoedd y Falklands yn y dyfodol i ymweld â'r fan lle collodd fy nhad ei fywyd. Yn ystod fy magwraeth, roeddwn i'n teimlo'n grac iawn am y ffaith y bu farw fy nhad, a hynny miloedd o filltiroedd oddi cartref. Byddai ymweld ag Ynysoedd y Falklands yn fy helpu i ar ôl yr holl flynyddoedd yma.

“Rydw i'n oedolyn ac yn rhiant fy hun erbyn hyn, felly rydw i'n gallu gweld ei fod wedi rhoi ei fywyd er mwyn ceisio rhyddid cynifer o bobl. Rydw i mor falch o Warchodfilwr Mark Gibby a'r aberth mawr a wnaeth.”

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae ein Gwasanaeth i Gyn-filwyr ar gael i unrhyw un sydd â chysylltiad â'r Lluoedd Arfog, a hynny yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Gall bywyd milwrol fod yn gyfnod sy'n achosi llawer o straen i aelodau'r teulu, gyda chyfnodau hir ar wahân, symud yn aml ac amserlenni hyfforddi anghyson.

“Gall hefyd achosi straen seicolegol ymhlith plant. Mae sawl ymfyddiniad, symud yn aml ac anaf neu farwolaeth rhiant yn realiti i lawer o blant teuluoedd gwasanaeth milwrol. Ym aml, mae rhaid i blant ddelio â chynnwrf symud tŷ ac ysgol, gadael eu ffrindiau ac amgylchoedd cyfarwydd.

“Mae ein Gwasanaeth i Gyn-filwyr ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un sydd eu hangen ar unrhyw adeg yn ystod eu bywydau.”

Hwyliodd Gwarchodfilwr, Mark Gibby, o Southampton ar 12 Mai 1982, ychydig wythnosau ar ôl ei ben-blwydd yn 22 oed, gan gyrraedd y Falklands ar 25 Mai. Bu farw cyfanswm o 48 o ddynion ar long y Sir Galahad yn Bluff Cove ddydd Mawrth 8 Mehefin 1982. Roedd 32 ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig. Cafodd llawer rhagor eu hanafu. Dinistriodd jetiau Skyhawk long y Sir Galahad chwe diwrnod cyn diwedd Rhyfel y Falklands.

Combat Stress – 0800 138 1619

Help For Heroes – 0300 303 9888

SSAFA – 0800 260 6767

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfonwch e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 28/09/21