Mae un o'r adeiladau amlycaf yng nghanol tref Aberpennar, hen neuadd y dref, wedi cael ei weddnewid, gan ei wneud yn addas i'r diben yn yr 21ain Ganrif.
Yn wreiddiol, cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II mawreddog sy'n edrych dros bont y dref yng Nghilgant y Ffrwd ei adeiladu yn 1904 am gost o £5,000. Ar y dechrau, dyma oedd prif swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Aberpennar ac mae wedi parhau i gael ei ddefnyddio fel eiddo i'r awdurdod lleol priodol.
Ar ôl ennill ei statws rhestredig gyda Cadw yn sgil ei bensaernïaeth a’i ddyluniad, mae'r adeilad bellach wedi'i ailddatblygu'n ganolbwynt busnes cydweithredol gan y Cyngor, mewn partneriaeth â Final Frontier Space Holdings, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor.
Bydd yn darparu gofod gwaith hyblyg o'r radd flaenaf ar gyfer busnesau newydd, busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu a busnesau lleol. Mae hyn yn bosibl oherwydd cyllid gan Gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.
Mae'r hyblygrwydd o ran y telerau a'r mannau gweithio, ynghyd â'r cyfleoedd i rwydweithio a'r cymorth materion busnes y mae lleoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith yn eu darparu, yn hanfodol wrth gychwyn a thyfu busnes bach. Yn y pen draw mae hyn yn cefnogi a chreu swyddi yn yr ardal leol. Bydd y cyfleuster yn cael ei reoli gan Final Frontier Space Holdings yn rhan o rwydwaith o ofod swyddfa hyblyg a lleoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Rwy’n falch iawn bod ailddatblygiad hen Neuadd y Dref Aberpennar bron â dod i ben, gan ddarparu cymorth materion busnes i gwmnïau newydd a busnesau lleol sydd eisoes wedi'u sefydlu.
“Mae gan yr adeilad hanes balch a bydd yn parhau i fod yn nodwedd yn y dirwedd sy'n newid yn barhaus yn yr 21ain Ganrif. Mae'r Cyngor yn parhau gyda'i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi, ac mae cynlluniau ailddatblygu yng nghanol ein trefi a'r cyffiniau yn rhan fawr ohoni.
“Mae modd i adeiladau gwag ac adeiladau diffaith fod yn hyll i'r cymunedau lleol ac mae'r Cyngor yn parhau i chwilio am gyfleoedd i geisio am gyllid allanol i’w hailddatblygu a'u gwneud yn addas i'w defnyddio unwaith eto ble'n bosibl.”
Mae'r gwaith trawsnewid mawr yn hen Neuadd y Dref Aberpennar bellach yng nghamau olaf y datblygiad. Bydd y gwaith wedi'i gyflawni a bydd ar adeilad yn barod i'w feddiannu a'i weithredu yn ddiweddarach eleni.
Wedi ei bostio ar 30/09/21