Skip to main content

Ymgynghoriad ar y gweill ar gynllun arfaethedig Ffordd Gyswllt Llanharan

Llanharan Square - the Llanharan Link Road consultation starts shortly

Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud ar gynllun arfaethedig Ffordd Gyswllt Llanharan mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd cyn bo hir. Bydd yr ymgynghoriad yn helpu'r Cyngor i lunio fersiwn derfynol o'i gais cynllunio, fydd yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol yn y Flwyddyn Newydd.

Byddai'r prosiect arfaethedig, rhwng cylchfan Dragon Studios a gorsaf betrol Llanharan, yn cael ei rannu'n dair rhan.

Mae rhan orllewinol y ffordd eisoes wedi'i hadeiladu gan y datblygwr blaenorol. Bydd y rhan yn y canol (hyd at a chan gynnwys y gylchfan arfaethedig ym mhen deheuol Ffordd y Fenter) yn cael ei chyflawni gan ddatblygwr tai mewn cysylltiad â'i ddatblygiad preswyl ei hun. Bydd y rhan ddwyreiniol (o Ffordd y Fenter hyd at yr A473 i'r dwyrain o orsaf betrol Llanharan) yn cael ei chyflawni gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r ffordd, mae'r Cyngor hefyd yn cynnig sythu rhan o'r briffordd i'r gorllewin o gylchfan Dragon Studios, a gaiff ei galw'n 'Cow Corner' yn lleol. Bydd y ffordd fwy syth yn cymryd lle'r troad sydyn, a bydd yn cynnwys llwybr teithio llesol i gerddwyr a beicwyr er mwyn gwella'r cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Llanharan a Phencoed. Dydy'r ddarpariaeth yma ddim ar gael ar y llwybr presennol.

Mae'r cynllun arfaethedig hefyd yn cynnwys adlinio Heol Llanhari fel ei bod yn cysylltu â'r prosiect trwy'r gylchfan ym mhen pellaf Ffordd y Fenter. Byddai aliniad presennol Heol Llanhari yn cael ei ddefnyddio'n llwybr troed/beicio.

Bydd yr ymarfer Ymgynghori Cyn-ymgeisio sydd ar y gweill yn canolbwyntio ar y rhannau o'r ffordd a'r gwaith ychwanegol fydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor.

Mae Cabinet y Cyngor eisoes wedi cytuno y bydd rhan ddwyreiniol y ffordd yn ymuno â'r A473 i'r dwyrain o Orsaf Betrol Llanharan. Roedd y llwybr i'w weld mewn fideo argraff arlunydd a gafodd ei gyhoeddi gan y Cyngor ym mis Mawrth. Bydd y fideo hefyd yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad sydd ar y gweill.

Bydd modd i drigolion gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori rhwng dydd Iau 30 Medi a dydd Iau 28 Hydref. Bydd hon yn broses Ymgynghori Cyn-ymgeisio, felly bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried i helpu i lywio'r dogfennau cynllunio terfynol i'w cyflwyno yn ystod misoedd cyntaf 2022 er mwyn eu hystyried yn ffurfiol.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan Redstart, a bydd ar gael o 30 Medi: https://www.redstartwales.com/cy/cym-cynllun-ffordd-osgoi-llanharan/

Bydd gan y wefan fersiynau diweddaraf cynlluniau'r prosiect, yn ogystal â dogfennau ategol eraill. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud trwy e-bostio ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk, ffonio 01443 425014 neu drwy ysgrifennu i'r Cyngor. Bydd cyfeiriad rhadbost i'w weld ar wefan yr ymgynghoriad.

Yn rhan o'r ymgynghoriad, bydd dau achlysur wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn lleol, lle bydd modd i drigolion siarad â Swyddogion am y cynllun. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 11 Hydref. Mae manylion yr achlysuron yma wrthi'n cael eu cadarnhau a byddwn ni'n rhannu'r manylion gyda thrigolion maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae cynllun Ffordd Gyswllt Llanharan yn un o brosiectau seilwaith trafnidiaeth uchelgeisiol, blaenoriaeth uchel y Cyngor, ochr yn ochr â deuoli'r A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy a Gogledd Porth Cwm Cynon. Cafodd cynllun Llanharan ei gynnig er mwyn lleihau amser teithiau lleol a thagfeydd traffig yn sylweddol trwy ardaloedd Llanharan, Dolau a Bryn-cae.

“Byddai gan y prosiect arfaethedig fuddion rhanbarthol sylweddol. Byddai'n gwella cysylltedd rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn sylweddol, a hynny yng nghanol Ardal Cyfleoedd Strategol Llanilid/yr M4. Mae'r ardal yma eisoes wedi'i nodi gan y Cyngor yn lleoliad â photensial am dwf economaidd sylweddol.

“Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd yn ddiweddar – mae arolygon ecolegol, ymchwiliadau tir a dyluniadau rhagarweiniol wedi cael eu cwblhau. Cytunodd Aelodau'r Cabinet, yn ei gyfarfod diweddar a gynhaliwyd ar 21 Medi, ar gyllid ychwanegol o £2 filiwn tuag at Ffordd Gyswllt Llanharan, a hynny'n rhan o ddyraniad untro arall, gwerth £6.5 miliwn, ar gyfer Blaenoriaethau Buddsoddi mewn Priffyrdd y Cyngor.

“Mae'r Cyngor wedi cynnal achlysuron ymgysylltu â'r gymuned leol yn y gorffennol, fel bod modd i drigolion ddweud eu dweud ar y prosiect arfaethedig. Byddwn i'n annog trigolion i fanteisio ar y cyfle i rannu eu barn trwy gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio o 30 Medi. Bydd yr adborth yn helpu Swyddogion i lunio fersiwn derfynol o'r dogfennau cynllunio i'w cyflwyno yn ystod misoedd cyntaf 2022, wrth i ni geisio caniatâd llawn ar gyfer y cynllun sylweddol i gyflawni gwelliannau trafnidiaeth mawr ar gyfer trigolion.”

Wedi ei bostio ar 29/09/21