Mae dau o drigolion Rhondda Cynon Taf, gweithiwr a pherchennog siop yn Aberpennar, wedi cael eu herlyn gan Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am redeg busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn eu meddiant.
Ymddangosodd y fenyw 23 oed a’r dyn 43 oed, sy'n ŵr a gwraig, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, lle plediodd y ddau yn euog i 24 o droseddau. Roedd y rhain yn ymwneud â gwerthu a bwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn eu meddiant, sef cynhyrchion tybaco ffug a nwyddau peryglus, yn ogystal â rhedeg busnes twyllodrus.
Dygwyd cyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y diffynnydd gan Adran Safonau Masnach y Cyngor yn dilyn ymchwiliad o ganlyniad i wybodaeth a ddaeth i law.
Fe wnaeth swyddogion ymgymryd â gwaith siopa dirgel yn y siop yng nghanol y dref ar 20 Ebrill, 4 Mai, 27 Mai, 22 Hydref a 11 Rhagfyr, 2021. Atafaelwyd cynhyrchion tybaco ffug o'r safle ar 11 Rhagfyr, 2021, yn dilyn cwynion bod modd prynu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon o'r safle busnes.
Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae'r Cyngor wedi llwyddo i erlyn perchennog busnes a gweithiwr yn Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â gwerthu nwyddau ffug.
“Mae'r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol diffuant hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon mewn mannau parchus.
“Gan weithio ar wybodaeth a ddaeth i law, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach, ymchwiliad trylwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma. Roedd gwerthu'r nwyddau ffug yma'n niweidiol i ddefnyddwyr, ac i fasnachwyr gonest hefyd.
“Mae gan ddefnyddwyr hefyd yr hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”
Cafodd y diffynnydd benywaidd ddedfryd o orchymyn cymunedol am 12 mis gan gynnwys 100 awr o waith di-dâl, a chafodd orchymyn hefyd i dalu £800 o gostau llys a gordal dioddefwr ychwanegol o £95. Cafodd y diffynnydd gwrywaidd ddirwy o £600, gorchymyn i dalu £800 o gostau llys a gordal dioddefwr ychwanegol o £60.
Wedi ei bostio ar 29/04/2022