Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf fynd yn ôl i Ganolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd i brynu bob math o bethau ar gyfer yr ardd - a hynny am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn bod modd i Ganolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd yn Aberdâr agor ei drysau a chroesawu'r cyhoedd yn ôl ar ôl bod ar gau am ddwy flynedd yn sgil y pandemig byd-eang.
Mae Canolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd yn ailagor ddydd Llun, 11 Ebrill. Bydd hefyd ar agor ar Wyliau Banc ac ar ddydd Sadwrn o benwythnos y Pasg ymlaen.
Meddai Tracey Davies, Rheolwr Canolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd: “Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni'n ailagor ar ôl i ni fod ar gau am ddwy flynedd yn sgil y pandemig byd-eang.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid, hen a newydd, i Ganolfan Arddio Maesnewydd. Dewch i siopa’n lleol, cefnogwch fenter leol a’n gwasanaeth ni, a dewch draw i weld popeth sydd gyda ni yn ein canolfan ar gyfer eich holl anghenion garddio.”
Mae'r gwanwyn wedi dychwelyd a misoedd yr haf yn agosáu, ac mae'r staff cyfeillgar a phrofiadol wrth law i roi cyngor garddwriaethol i ymwelwyr a chynnig rhai o'r planhigion cartref gorau a mwyaf iach sydd i'w cael yn Rhondda Cynon Taf.
Caiff Canolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd ei redeg fel busnes cyflogaeth gefnogol gan Wasanaethau i Oedolion y Cyngor. Mae amrywiaeth eang o hadau, planhigion a choed bach ar werth i weddu i chwaeth a gofynion yr holl arddwyr – o botiau a blychau ffenestr i erddi mawr, tyddynnod a rhandiroedd.
Mae Canolfan Arddio Maesnewydd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau i oedolion ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Mae'n lleoliad sy'n boblogaidd gyda garddwyr a hefyd gyda phobl sy'n hoffi cwrdd â'u ffrindiau am baned a sgwrs yn y siop goffi.
Mae tri aelod o staff llawn amser yn gweithio yn y ganolfan arddio a'r siop goffi, gan gefnogi hyd at 12 o bobl ar y safle ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Mae Canolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid ac ymwelwyr hen a newydd.
Mae ei gynllun llawr proffesiynol, sy'n gwbl hygyrch i bobl anabl, yn arwain ymwelwyr ar hyd rhesi a rhesi o lysiau, blodau, planhigion a hadau. Mae bagiau o gompost, gwrtaith, atalion a rhoddion i'r ardd hefyd ar werth, a hynny am brisiau cystadleuol.
Mae Canolfan Arddio a Siop Goffi Maesnewydd wedi'i lleoli yn Stryd Llywellyn, Trecynon, Aberdâr, CF44 8HU. Mae'n ailagor ddydd Llun, 11 Ebrill, a bydd hefyd ar agor ar Wyliau Banc ac ar ddydd Sadwrn o benwythnos y Pasg ymlaen. Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener (9:00am tan 4:00pm) Dydd Sadwrn a Gwyliau Banc (10:00am tan 3:00pm). Rhif ffôn (01685) 872446
Wedi ei bostio ar 06/04/2022