Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am gynllun adnewyddu sydd i’w gynnal ar Bont Imperial, Porth. Bydd angen cau ffordd ar ran y bont o Heol Pontypridd a bydd angen trefniadau bws dros dro yn lleol.
Bydd y cyfnod cau'r ffordd yn dechrau ddydd Llun, 25 Ebrill, er mwyn atgyweirio gwaith dur ar elfennau strwythurol y bont, ailbaentio'r holl waith dur a'r canllawiau addurniadol, gosod uniadau ymestyn a gosod wyneb newydd ar y ffordd. Bydd berynnau'r bont yn cael eu newid a gwaith diddosi'n cael ei gynnal ar ddec y bont. Bydd gwaith atgyweirio'r gwaith maen a choncrit hefyd yn cael ei gynnal ar yr ategweithiau, y waliau balast a'r adainfuriau.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr ar gyfer y cynllun, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni. Mae'r gwaith yn golygu bydd raid cau tua 75 metr o Heol Pontypridd, o'i chyffordd â Theras yr Afon.
Bydd trigolion yn sylwi ar rywfaint o weithgarwch ar y safle cyn i’r ffordd gau ar 25 Ebrill, wrth i’r contractwr sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer.
O 25 Ebrill, y llwybr amgen ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd tuag at Ganol Tref Porth fydd ar hyd yr A4058, Stryd Porth, Heol y Gogledd a Heol Pontypridd. Dylai traffig tua'r de sy'n teithio tuag at Heol Eirw neu Bontypridd fynd ar hyd y B4278 Heol Llwyncelyn a'r A4058. Mae'r llwybrau amgen hyn i'w gweld ar y map isod ar wefan y Cyngor.
Yn gyffredinol, bydd mynediad i gerddwyr yn parhau drwy gydol cyfnod cau’r ffordd, ond efallai y bydd cyfnodau byr pan fydd mynediad wedi’i gyfyngu er mwyn sicrhau diogelwch. Bydd contractwr y Cyngor yn trefnu gwasanaeth gwennol i weithredu yn ystod yr amseroedd yma. Bydd y Cyngor yn rhoi rhybudd am y gwasanaeth yma i drigolion. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys yn ystod y gwaith.
Yn ystod cyfnod y gwaith, bydd Gwasanaeth Stagecoach 132 (Caerdydd - Maerdy) yn gwasanaethu Canol Tref Porth i’r ddau gyfeiriad yn ôl yr arfer, ond fydd dim modd iddo wasanaethu Heol Eirw gan y bydd y ffordd ar gau – bydd yn dargyfeirio ar hyd Heol Llwyncelyn a Phont Britannia i’r ddau gyfeiriad. Bydd gwasanaethau 124 (Caerdydd - Maerdy) a 131 (Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Maerdy) yn teithio ar hyd eu llwybr arferol tua’r de, ond byddan nhw'n gweithredu ar hyd yr A4058 wrth deithio tua’r gogledd, gan aros wrth Orsaf Heddlu Porth.
Bydd Gwasanaeth 150 (Gilfach-goch - Porth) ar gael bob 30 munud i drigolion Heol Eirw, a hynny o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 7.45am a 7.30pm. Bydd gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg bob awr ar ddydd Sul – gan gludo teithwyr ar hyd Heol Llwyncelyn i Ganol Tref Porth, i gysylltu â Gwasanaeth 132 a gwasanaethau eraill er mwyn i deithwyr barhau i deithio. Bydd Xarrow Travel yn gweithredu’r gwasanaeth bws gwennol, ac mae modd cysylltu â’r cwmni drwy ffonio 07967 636659 i gael rhagor o wybodaeth.
Nodwch y bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei gynllun gwaith presennol yn Heol Llwyncelyn, i sefydlogi rhan o arglawdd, yn dod i ben cyn i gynllun Pont Imperial ddechrau. Mae’r gwaith ar Heol Llwyncelyn bron wedi’i gwblhau, a bydd y trefniadau traffig unffordd presennol yn dod i ben cyn i gyfnod cau'r ffordd yn Heol Pontypridd ddod i rym.
Wedi ei bostio ar 13/04/22