Bydd gwaith i adeiladu croesfan newydd i gerddwyr ar yr A4233 Heol Trebanog, Trebanog, yn dechrau'r wythnos yma. Mae modd gweld union leoliad y groesfan yn y llun.
Bydd y Cyngor yn defnyddio cyllid o'i Raglen Gyfalaf ar gyfer y Priffyrdd a Thrafnidiaeth er mwyn gosod croesfan newydd sy'n cael ei rheoli gan signalau, er mwyn creu amgylchedd sy'n fwy diogel i gerddwyr.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mercher, 30 Gorffennaf, ac mae disgwyl i'r gwaith bara oddeutu pum wythnos.
Er mwyn cynnal y gwaith mewn modd diogel, byddwn ni’n cyflwyno goleuadau traffig dwyffordd dros dro.
Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal ar hyd y palmant trwy gydol y gwaith.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd yn gontractwr i gyflawni’r prosiect yn y gymuned.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 28/07/2025