Cafodd cyn-filwr sy'n eiriolwr balch ar ran cyn-filwyr eraill, Paul Bromwell, yr anrhydedd o dderbyn MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin. Rhoddwyr yr MBE iddo am ei wasanaethau rhagorol i gyn-filwyr ac aelodau bregus ein cymuned.
Sefydlodd Paul, sy'n gyn-filwr Y Gwarchodlu Cymreig, y grŵp cefnogaeth 'Valley Veterans' sydd wedi'i leoli yng Nghwm Rhondda, ar ôl iddo dderbyn diagnosis o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) tua 25 blynedd yn ôl. Yn tynnu ar ei brofiad personol a'i hyfforddiant fel mentor iechyd meddwl i gyn-filwyr, fe sefydlodd Paul amgylchedd diogel a chefnogol i gyn-filwyr dderbyn cefnogaeth o ran eu hiechyd meddwl. Mae’r grŵp yn fodd o gymdeithasu â chyn-filwyr eraill a chael cymorth ymarferol.
Dros gyfnod o 15 mlynedd, bu Paul yn talu costau Valley Veterans gan ddefnyddio'i arian personol. Roedd yn rhaid iddo ailforgeisio’u dŷ er mwyn talu i adeiladu stablau newydd fel bod modd cynnig therapi ceffylau. Mae hyn yn amlygu’i angerdd tuag at wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr. Yn ddiweddar, mae Valley Veterans wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a sefydliadau eraill megis Cronfa'r Loteri Genedlaethol, Cronfa Eglwysi Cymru, a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae gwaith diweddar yn Valley Veterans wedi cynnwys adeiladu ardal natur i'w ddefnyddio ar gyfer therapi garddio, a boreau brecwast wythnosol sy'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Cymuned Tonpentre. Yn rhan o'r boreau coffi, mae dros 60 o gyn-filwyr yn cwrdd am bryd o fwyd twym, i sgwrsio â ffrindiau, a manteisio ar gymorth o ran iechyd meddwl, cyflogaeth a chyngor o ran tai. Mae Paul wedi atgyfnerthu’r mentrau yma wrth wneud cysylltiadau â'r elusen MIND a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Gyn-filwyr gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dechreuodd ei fenter ar raddfa fach dros 20 mlynedd yn ôl, ond erbyn hyn, diolch i waith Paul, mae'r fenter wedi trawsnewid i fod yn elfen hanfodol i fywydau dros 140 o gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf.
Gan fyfyrio ar ei lwyddiant diweddar, meddai Paul Bromwell MBE, sylfaenydd Valley Veterans: "Dyma anrhydedd i fi yn bersonol, ond hefyd i bob cyn-filwr sydd wedi cerdded trwy ddrysau Valley Veterans a dod o hyd i obaith, iachâd, a theimlo fel eu bod nhw'n perthyn.
"Rydw i'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi cyflawni, ac rwy'n ddiolchgar iawn i dderbyn MBE yn rhan o restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin y flwyddyn yma."
Mae'r fideo canlynol, sydd wedi'i greu gan 'RFCA' ar gyfer Cymru, yn esbonio sut mae therapi ceffylau’n yn rhan anatod o waith Paul Bromwell a Valley Veterans.
Yn ddiweddar, cafodd Paul ei goroni'n fuddugol yng ngwobr Hyrwyddwr Cymunedol yn rhan o Wobrau Dewi Sant 2025. Cafodd y seremoni ei chynnal ar 27 Mawrth, 2025. Mae'r wobr Hyrwyddwr Cymunedol ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n parhau i hyrwyddo mentrau er mwyn gwella safon bywyd eraill yn ei gymuned leol, neu gymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal, enillodd Paul DWY wobr yn y Gwobrau Cyn-filwyr Cymru. Enillodd y wobr Ysbrydoliaeth y Flwyddyn ar gyfer ei waith yn mynd tu hwnt i'r disgwyl wrth osod sylfaen a bod yn fodel rôl i filwyr eraill sy'n gadael y lluoedd arfog. Ei ail wobr oedd Pencampwr Cyffredinol Cyn-filwyr Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn i ddathlu arwyr lleol fel Paul. Mae ei waith arbennig gyda Valley Veterans wedi cael dylanwad sylweddol ar fywydau cyn-filwyr, gan gynnig cefnogaeth i gyn-filwyr, gweithwyr y Lluoedd Arfog, a phobl fregus yn ein cymunedau. Mae derbyn MBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin, yn ogystal â'i gyflawniadau diweddar eraill, yn wir dystiolaeth o'i ymrwymiad di-dor, ei angerdd, a'r effaith gadarnhaol y mae wedi'i gwneud.
"Am flynyddoedd, mae'r Cyngor a fi fy hun wedi cefnogi gwaith Paul a Valley Veterans, gan weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cyfamod y Lluoedd Arfog a gwella lles ein cyn-filwyr lleol." Yn rhan o'n Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth, cyngor, a chymorth am ddim i aelodau'r gwasanaeth, o'r gorffennol a'r presennol, gan sicrhau eu bod yn derbyn y parch a'r cymorth y maent yn eu haeddu.
Ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, dyma longyfarch Paul, ei deulu, ei ffrindiau a phawb sy'n rhan o Valley Veterans. Mae wir yn haeddu'i gydnabyddiaeth, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am ei ymdrechion parhaus i gefnogi'r rhai sydd wedi aberthu cymaint ar gyfer y wlad yma."
Mae modd gweld Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn ei gyfanrwydd yma.
Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â Valley Veterans, ffoniwch 07733 896 128, neu ewch i: HAFAN | Valley Veterans
Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gofrestru’n rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, dyma ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018, gan arwain y ffordd i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae'r Cyfamod yn symbol o barch rhwng cymunedau sifil a'r Lluoedd Arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor wedi cefnogi dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd drwy ystod o gymorth a chefnogaeth. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i gyn-aelodau ac aelodau cyfredol y Lluoedd Arfog.
I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 28/07/2025