Skip to main content

Adroddiad Adran 19 - Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 - Cwm-bach

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r trydydd adroddiad ar ddeg yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiad yma'n canolbwyntio ar achosion y llifogydd yng Nghwm-bach.

Gan ein bod ni'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mae rhaid i'r Cyngor ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio'r hyn ddigwyddodd yn ystod y llifogydd. Achosodd tywydd digynsail Storm Dennis (15-16 Chwefror 2020) lifogydd ledled Rhondda Cynon Taf. Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol o 28 ardal a gafodd eu heffeithio gan y tywydd yma, bydd y Cyngor yn cyhoeddi 19 adroddiad yn trafod cymunedau penodol.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi adroddiadau'n canolbwyntio ar Drehafod (Ebrill 2022), Ynys-hir (Mawrth 2022), Treorci (Chwefror 2022), Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Trefforest, Glyn-taf a Ffynnon Taf (Ionawr 2022). Daeth yr adroddiadau yma wedi adroddiadau ar gyfer Treherbert, Cilfynydd, Pentre ac Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2021. Mae modd gweld yr adroddiadau yma ar wefan y Cyngor.

Mae pob adroddiad Adran 19 yn cydnabod yr Awdurdodau Rheoli Risg, yn nodi'r swyddogaethau maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu'r cynigion gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan arolygiadau ar ôl y storm a gynhaliwyd gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Mae'r adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Gwener, 22 Ebrill ar gyfer ardal Cwm-bach yng Nghwm Cynon (Ardal 03 Ymchwiliad Llifogydd RhCT) yn nodi bod glaw trwm yn sgil Storm Dennis wedi achosi llifogydd y tu mewn i 34 eiddo, gan gynnwys 18 eiddo masnachol

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yma.

Mae adroddiad Cwm-bach yn sefydlu, o'r dystiolaeth a gasglwyd, mai prif ffynhonnell y llifogydd oedd y dŵr ffo sylweddol yn llifo dros y tir i lawr o'r llechweddau serth uwchben y pentref. Draeniodd glawiad i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd sawl un ohonyn nhw eu gorlenwi gyda dŵr a malurion, gan arwain at godi lefel y dŵr ac achosi gorlifo.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad oedd isadeiledd y rhwydwaith o gwlferi ar Heol Cefnpennar yn darparu lefelau digonol o ddiogelwch mewn achosion o law trwm a gorlenwi. Mae'r adroddiad yn nodi bod y tri rhwydwaith o gwlferi eraill yn darparu lefelau digonol o ddiogelwch mewn achosion o law trwm. Serch hynny, er bod gan y rhwydweithiau yma'r capasiti i reoli'r glaw trwm, roedd y tri rhwydwaith mewn cyflwr gwael ac roedd cwrs y dŵr wedi'i atal gan falurion.

Y Cyngor, a ninnau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ac Awdurdod Draenio Tir, yw'r Awdurdod Rheoli Risg sy'n gyfrifol am reoli cwrs arferol y dŵr a llifogydd. Mae'r Cyngor wedi rhoi 15 cam ar waith ac wedi cynnig 7 cam gweithredu arall mewn ymateb i lifogydd Cwm-bach. Mae'r Cyngor eisoes wedi clirio strwythurau ceuffosydd ac wedi cynnal arolwg. Mae'r Cyngor wedi clirio mwy na 2,400 metr o lif y cwrs dŵr sydd wedi'i sianelu ac isadeiledd priffyrdd yn yr ardal leol.

Mae'r Cyngor wedi arwain ar ddatblygiad ystafell reoli amlasiantaeth yn gysylltiedig â'r Ganolfan Alwadau er mwyn sicrhau ymateb cydlynol i achosion o lifogydd yn y dyfodol. Mae'r Cyngor hefyd wedi dechrau prosiect Gwrthsefyll Llifogydd dros dro ar gyfer Eiddo - mae'r prosiect yma'n cynnig gatiau llifogydd mae modd eu hehangu i eiddo sydd â risg uchel o brofi llifogydd.

Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio ar wella ei ddealltwriaeth o'r dalgylch sydd uwchben Cwm-bach trwy ddatblygu Achos Busnes Amlinelliad Strategol fydd yn darparu argymhellion ar gyfer mecanweithiau rheoli addas i liniaru risg llifogydd yn y cwrs dŵr arferol a llifogydd yn sgil dŵr ffo.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yntau'n Awdurdod Rheoli Risg, wedi comisiynu Astudiaeth Modelu Llifogydd Cwm Cynon. Bydd canlyniadau'r astudiaeth yma'n cynnwys asesiad o opsiynau rheoli llifogydd posib. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi clirio cwrs y dŵr yn 'Ffos Cwm-bach' gan taw dyma oedd ffynhonnell y llifogydd mewn un eiddo.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi datblygu argymhellion a chynllun gweithredu manwl er mwyn cydnabod ffactorau sydd angen eu gwella ar gyfer stormydd yn y dyfodol, gan gynnwys adolygiad o'u Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd ac ymateb wrth reoli digwyddiad.

Mae adroddiad yn nodi bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau'n foddhaol wrth ymateb i'r llifogydd, ond bod angen mesurau pellach er mwyn bod yn fwy parod pe bai achos debyg yn y dyfodol.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi 13 adroddiad archwilio llifogydd yn dilyn Storm Dennis. Mae'n ofynnol i'r Cyngor, a ninnau’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, gyhoeddi'r adroddiadau yma yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae pob adroddiad yn nodi Awdurdodau Rheoli Risg ac yn amlinellu sut maen nhw wedi gweithredu ers y llifogydd, yn ogystal â'u gweithredoedd arfaethedig.

"Mae pob adroddiad yn ddogfen ffeithiol sy'n gwbl hygyrch i'r cyhoedd - mae modd eu gweld nhw ar wefan y Cyngor. Mae Swyddogion yn parhau i weithio tuag at gyhoeddi 19 adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau penodol - maen nhw'n dal i weithio ar y chwe adroddiad olaf. Mae'r adroddiad diweddaraf am gymuned Cwm-bach yn dod i'r casgliad bod pob Awdurdod Rheoli Risg perthnasol wedi cyflawni eu cyfrifoldebau'n ddigonol ac wedi rhoi mesurau pellach ar waith er mwyn bod yn fwy parod mewn achos tebyg."

Wedi ei bostio ar 25/04/22