Mae'r Cyngor angen cau ffordd ar y tri dydd Sul nesaf yn Nhonpentre, er mwyn cwblhau'r gwaith o osod wyneb newydd ac ail-leinio ar gyfer gwaith parhaus ar y gylchfan fach yn Heol yr Eglwys.
Mae’r gylchfan fach bresennol yn cael ei disodli gan gyffordd uwch yn rhan o welliannau ehangach i’r priffyrdd, a ddechreuodd ddiwedd mis Chwefror 2022. Bydd y gwaith ar ddydd Sul sydd i ddod yn cael ei gynnal rhwng 8am a 5pm ar 24 Ebrill, 1 Mai ac 8 Mai – a bydd hyn yn cwblhau'r gweithgaredd gwaith yn y lleoliad yma.
Bydd Heol yr Eglwys ar gau rhwng Heol y Maendy a Heol Ystrad, a bydd ffyrdd cysylltiedig ar gau yn Stryd Pryce, Stryd yr Eglwys a Stryd Bailey o'u cyffyrdd â Heol yr Eglwys. Bydd y ffordd fynediad i Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr hefyd yn cau o'i chyffordd â Stryd Bailey, am bellter o 20 metr.
Mae’r ffyrdd sydd i'w cau i’w gweld ar y map a ganlyn, a bydd gweithwyr wrth law yno.
Bydd arwyddion clir ar gyfer llwybr amgen i fodurwyr ar hyd yr A4058 Heol Ystrad, Heol Tyisaf, Heol Gelli a Heol yr Eglwys. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.
Yn ystod y cyfnodau cau'r ffyrdd, bydd gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu bob awr ar y llwybr canlynol i’r ddau gyfeiriad – Gwesty’r Glandŵr, Heol Ystrad, Heol Tyisaf, Heol Gelli a Heol yr Eglwys, gan droi yn Theatr y Phoenix ac Ystad Nebo.
Bydd yn rhedeg bob awr rhwng 8.29am a 5.29pm i gyfeiriad y gogledd (tuag at Dreorci) a rhwng 9.26am a 6.26pm tua'r de (tuag at Donypandy). Caiff ei gweithredu gan Thomas of Rhondda, a bydd yn cysylltu â gwasanaethau Stagecoach 120 a 130 yng Ngwesty'r Glandŵr er mwyn i deithwyr barhau i deithio i'r ddau gyfeiriad.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr a'r gymuned ehangach am eu cydweithrediad yn ystod cyfnodau cau'r ffyrdd yma, sydd wedi'u hamserlennu ar ddydd Sul olynol er mwyn lleihau aflonyddwch ar drigolion a gwasanaethau bysiau lleol.
Wedi ei bostio ar 22/04/22