Llun gan: Dŵr Cymru
WEDI'I DDIWEDDARU AR 29/04/22: Sylwch, mae Dŵr Cymru angen cau ffordd ychwanegol i gwblhau’r gwaith dargyfeirio i’r brif bibell ddŵr. Bydd yn digwydd dros benwythnos Gŵyl y Banc (8am ddydd Sadwrn, 30 Ebrill, tan 6am ddydd Mawrth, 3 Mai). Bydd trefniadau cau'r ffordd yr un fath â'r cyfnod diweddar dros y Pasg.
Bydd Dŵr Cymru yn gwneud gwaith hanfodol i ddargyfeirio'r brif bibell ddŵr ar Stryd yr Afon yn Nhrefforest ar ran y Cyngor. Bydd angen cau ffordd a chael trefniadau amgen dros dro ar gyfer bysiau dros Wyliau'r Pasg i leihau aflonyddwch.
Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 7 Stryd yr Afon a chyffordd Stryd yr Afon a Stryd y Castell. Mae wedi’i drefnu dros gyfnod y gwyliau er mwyn osgoi amseroedd teithio prysur ac er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel ac yn gyflym, gyda llai o gerbydau ar y ffordd ar adegau prysur a dim bysus ysgol. Bydd yn dechrau Ddydd Sadwrn, 9 Ebrill, ac yn gorffen erbyn dydd Sul, 24 Ebrill, gan gynnwys gwaith dros benwythnos Gŵyl Banc y Pasg (Ebrill 15-18).
Cliciwch yma i weld fersiwn mawr o'r map uchod
Bydd Dŵr Cymru yn dargyfeirio'r brif bibell ddŵr sydd yn ei lle ar hyn o bryd, er mwyn ailosod pont droed Tafarn y Castell rhwng Stryd yr Afon a Heol Caerdydd, Glyn-taf yn y dyfodol. Mae wedi penodi'r contractwr Lewis Civil Engineering i wneud y gwaith.
Llwybrau Amgen a Mynediad Lleol
Mae llwybr amgen i yrwyr ar hyd Stryd Fothergill, Broadway, yr A4054 Cyfnewidfa Glyn-taf, yr A470 tua'r de, Cyfnewidfa Glan-bad, Heol Gwaelod-y-Garth, Heol Ton-teg (A473), Cylchfan Ton-teg, Heol Ton-teg (B4595), Heol Llanilltud a Stryd y Parc i'r ochr sydd cyferbyn â'r rhan o'r ffordd sydd wedi'i chau. Bydd mynediad i Heol y Fforest ar gael ar hyd Stryd y Castell drwy gydol cyfnod y gwaith.
Mae map o'r ffordd sydd ar gau a'r llwybr amgen ar gael yma.
Bydd mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys a cherddwyr ac i drigolion lleol gyrraedd eu cartrefi yn parhau trwy gydol cyfnod y gwaith. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ganiatáu i draffig dwy ffordd weithredu dros dro yn Stryd yr Afon, o Stryd Fothergill i 7 Stryd yr Afon. Serch hynny, bydd cyfyngiadau ar barcio ar hyd Stryd yr Afon dros y cyfnod yma.
Trefniadau Dros Dro ar gyfer Bysiau
O ganlyniad i gau’r ffordd, fydd dim modd i wasanaeth Edwards Coaches 90 (Terfynfa Pontypridd-Gwaunmeisgyn) na gwasanaeth 100 (Pontypridd-Ysbyty Brenhinol Morgannwg) wasanaethu eu llwybrau arferol ar hyd y Broadway a ger yr Otley Arms yn Nhrefforest. O'r herwydd, byddan nhw'n dargyfeirio ar hyd Heol y Coed a Stryd y Brenin, gan barhau â'r llwybr arferol o Heol Llanilltud.
Bydd angen cau'r ffordd eto ar benwythnosau rhwng 30 Ebrill a 22 Mai, a bydd yr un trefniadau'n cael eu dilyn ar gyfer bysiau. Dim ond gwasaanethau i gyfeiriad Beddau sy'n cael eu heffeithio gan gau'r ffordd. Fydd teithiau i gyfeiriad Pontypridd ddim yn newid.
Bydd pob busnes lleol ar agor fel arfer yn ystod y gwaith. Hoffai'r Cyngor a Dŵr Cymru ddiolch i'r gymuned o flaen llaw am eu cydweithrediad, wrth i'r gwaith pwysig yma gael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 29/04/22