**DIWEDDARIAD, 05/05/22 – gwasanaeth bws ychwanegol.
Mae’r Cyngor wedi ateb Cwestiynau Cyffredin am y gwaith sylweddol i atgyweirio wal fawr ar Stryd Fawr Llantrisant – gan gynnwys pam mae angen y system draffig unffordd dros dro yn ei ffurf bresennol.
Ar ôl i'r wal fawr ddirywio, ymatebodd y Cyngor yn gyflym i asesu'r difrod, comisiynu dyluniadau a phenodi contractwr arbenigol i ailadeiladu ac atgyweirio'r strwythur. O 20 Ebrill, rhoddwyd system draffig unffordd ar waith yn Stryd yr Eglwys a’r Stryd Fawr, i ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffyrdd, ond yn enwedig cerddwyr, wrth i’r gwaith brys cymhleth yma fynd rhagddo.
Mae manylion llawn am y trefniadau rheoli traffig a llwybrau amgen, ynghyd â threfniadau dros dro ar gyfer bysiau, wedi’u cynnwys yma.
Yn dilyn adborth gan y cyhoedd, rydyn ni wedi paratoi cyfres o gwestiynau ac atebion er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i’r gymuned am y gwaith sy’n mynd rhagddo – yn enwedig mewn perthynas â hyd y cynllun a natur y trefniadau traffig newydd a ddaeth i rym ar 20 Ebrill
Pa mor hir fydd y gwaith yn para?
Mae'r cynllun yn digwydd ar frys. Mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers pedair wythnos, sef tua chwarter y rhaglen waith. Mae’r cynllun ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i’w gwblhau yn ystod canol haf 2022.
Pam mae'r cynllun yn cymryd cymaint o amser?
Mae'r gwaith o drwsio'r prif wal ac ailadeiladu rhan ohoni ar y Stryd Fawr yn cael ei gymhlethu gan bresenoldeb ffens uwchben y wal, a wal arall y tu ôl i'r ffens yma. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r contractwr weithio ar ddarnau bach ar y tro, i sicrhau bod y tair elfen ddim yn cael eu peryglu a bod y brif wal ddim yn cwympo. Rhaid felly aildrefnu balast dŵr a sgaffaldiau cyn bo modd i'r contractwyr symud i rannau newydd o'r wal. Mae hyn yn cymryd llawer o amser, ond y dewis arall fyddai dymchwel ac ailadeiladu pob un o’r tri strwythur – mae’n debygol y byddai angen cau’r ffordd yn llawn, gan arwain at amhariad traffig mwy sylweddol a bydd y gwaith yn cymryd llawer hirach.
Pam mae'r trefniadau traffig wedi newid?
Arweiniodd y system goleuadau traffig a roddwyd ar waith yn wreiddiol at lawer o achosion lle'r oedd cerbydau'n gyrru ar y palmentydd i basio traffig oedd yn ciwio, gan roi cerddwyr mewn perygl. Doedd dim modd i'r Cyngor anwybyddu hyn gan fod diogelwch ar y ffyrdd yn hollbwysig, doedd ganddo unrhyw ddewis ond cyflwyno system i reoli'r traffig ar frys.
Pam dydy'r system unffordd ddim yn gallu rhedeg i'r cyfeiriad arall yn lle hynny?
Aseswyd mai'r system un ffordd sydd bellach yn ei lle oedd yr un a oedd yn tarfu leiaf pan ystyrir yr holl ffactorau. Mae cludiant o’r cartref i’r ysgol yn ystyriaeth allweddol, gan y byddai’n anodd iawn rheoli’r newidiadau sydd eu hangen pe bai’r system unffordd yn rhedeg i’r cyfeiriad arall. Byddai angen gyrwyr a bysiau ychwanegol ar adeg pan mae hi'n anodd iawn dod o hyd iddyn nhw. Byddai hyn yn rhoi’r ddarpariaeth mewn perygl ar adeg o’r flwyddyn pan mae llawer o ddisgyblion yn eistedd arholiadau. Rydyn ni'n deall pryderon busnesau, ac mae swyddogion ar gael i helpu orau y gallen nhw gydag unrhyw faterion sy'n codi.
Beth yw'r trefniadau dros dro sydd ar waith ar gyfer bysiau?
Fydd y trefniadau traffig yma ddim yn effeithio ar wasanaethau bysiau lleol sy'n teithio i Donysguboriau ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dylai teithwyr sy'n teithio i Lantrisant o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tonysguboriau a thu hwnt deithio tua'r gogledd i Sgwâr Beddau ar wasanaeth 100 cwmni Edwards neu wasanaeth 404 Grŵp NAT, ac yna gysylltu â naill ai'r gwasanaeth 100 neu'r 404 sy’n teithio’n ôl i Hen Dref Llantrisant. Mae'r Cyngor wedi trefnu i'r cwmnïau bysiau NAT Group ac Edwards Coaches ganiatáu i deithwyr drosglwyddo heb unrhyw dâl ychwanegol wrth wneud eu siwrneiau yn ôl i Hen Dref Lantrisant. Mae hysbysiadau ar y bysiau ac wrth yr arosfannau bysiau yn tynnu sylw at y trefniadau yma.
**Beth am unrhyw wasanaethau bws ychwanegol?
Yn dilyn yr adborth a ddaeth i law, mae modd i'r Cyngor gadarnhau ei fod wedi adolygu'r ddarpariaeth bysiau bresennol ac wedi nodi gwelliannau pellach. O ddydd Mercher 4 Mai, bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim ar gael o Hen Dref Llantrisant (dydd Llun i ddydd Gwener yn unig). Edwards Coaches fydd yn gweithredu'r gwasanaeth yma. Bydd teithiau o Orsaf Fysiau Tonysguboriau ar gael bob dwy awr rhwng 10am a 4pm. Bydd yn teithio dros Gomin Llantrisant, gan stopio ger Llety Gwarchod Gwaun Rupera, Heol Gwynno a Stryd yr Alarch ar y ffordd i Gylch y Teirw. Wedyn, bydd yn teithio ar hyd Heol y Bont-Newydd, Dan Caerlan, Brynteg a Sgwâr Beddau er mwyn cysylltu â Gwasanaethau 90 a 100 Edwards i Bontypridd, a Gwasanaeth 404 NAT Group i Bontypridd trwy Benycoedcae.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion, busnesau a chymudwyr am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r cynllun atgyweirio brys yma fynd rhagddo ymhellach. Rydyn ni'n cydnabod bod y trefniadau traffig angenrheidiol sydd ar waith yn awr yn tarfu ar y gymuned, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar hyn o bryd.
Wedi ei bostio ar 29/04/22