Skip to main content

Cyllid ychwanegol arfaethedig ar gyfer meysydd buddsoddi â blaenoriaeth

Investment priorities JPEG

Bydd y Cabinet yn ystyried cynlluniau i fuddsoddi £2.725 miliwn ychwanegol mewn meysydd o flaenoriaeth. Bydd y cyllid yma ar ben y cyllid sydd wedi'i ddyrannu'n rhan o raglen gyfalaf bresennol y Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd y cyllid ychwanegol pwysig yma'n mynd tuag at y priffyrdd, lliniaru llifogydd, parciau, biniau a meinciau, gwaredu gwastraff, ac uwchraddio cae chwaraeon Parc y Darren i un 3D. 

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 6 Medi, bydd yr Aelodau'n ystyried adroddiad sy'n cynnig y buddsoddiad ychwanegol yma, wedi'i ariannu gan adnoddau sydd eisoes wedi'u neilltuo gan y Cyngor i'w fuddsoddi mewn isadeiledd. Os bydd yr aelodau'n cytuno, caiff y cynigion eu hystyried gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 28 Medi.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y meysydd buddsoddi yn unol â blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae manylion y cyllid arfaethedig wedi’u crynhoi isod: 

  • Priffyrdd a Ffyrdd (£1 miliwn) – parhau i gefnogi’r buddsoddiad gwell mewn ffyrdd lleol, gan adeiladu ar gynnydd parhaus mewn cyllid cyfalaf blynyddol ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd dros nifer o flynyddoedd.
  • Ffyrdd heb eu Mabwysiadu (£100,000) – adeiladu ar gyllid sydd eisoes wedi'i ddyrannu i alluogi rhagor o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu i gael eu gwella a'u mabwysiadu'n ffurfiol ar gyfer gwaith cynnal a chadw gan y Cyngor yn y dyfodol.
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd (£1miliwn) – parhau i gefnogi gwaith draenio a chynlluniau lliniaru llifogydd, gan alluogi cynnydd pellach ar achosion busnes a fydd yn targedu arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.
  • Gwelliannau amgylcheddol (£50,000) – cefnogi gwelliannau sy'n cynnwys biniau a meinciau newydd mewn parciau a mannau agored eraill.
  • Parciau (£200,000) – cyllid ychwanegol i gefnogi rhaglen fuddsoddi barhaus i adnewyddu pafiliynau chwaraeon, uwchraddio caeau chwaraeon ac atgyweirio isadeiledd parciau ymhellach.
  • Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd (£200,000) – datblygu Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd newydd i gynnwys darpariaeth ar gyfer pêl-droed, pêl-fasged a defnydd cymunedol cyffredinol.
  • Cae chwaraeon Parc y Darren (£175,000) – cynnig adnoddau ychwanegol, ochr yn ochr â chais am gyllid allanol, i uwchraddio’r cyfleuster presennol yng Nglynrhedynog o gae astroturf i arwyneb 3G. At ei gilydd, bydd y prosiect yn costio £375,000.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth yn cynnig cyllid ychwanegol o £2.725 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth allweddol y Cyngor. Mae hyn yn ychwanegol at y Rhaglenni Cyfalaf ar gyfer 2022/23 sydd werth miliynau o bunnoedd. Cytunwyd ar y rhain yn gynharach eleni.

“Mae'r adnodd ychwanegol yma ar gael y tro yma'n unig o gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Mae'r cyllid yma eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau i'n hisadeiledd ni. Ers mis Hydref 2015, mae oddeutu £144 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu gan y Cyngor yn y ffordd yma, er mwyn buddsoddi ymhellach mewn blaenoriaethau allweddol.

“Bydd y dyraniad arfaethedig o £1 miliwn ar gyfer priffyrdd a ffyrdd yn darparu cyllid ychwanegol ar ben y £4.6 miliwn a ddyrannwyd yn rhan o raglen cynnal a chadw 2022/23. Mae'r cyllid yma wedi gweld llawer o waith atgyweirio ac adnewyddu ffyrdd yn digwydd dros yr haf eleni. Bydd y £100,000 ychwanegol ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu yn helpu i gyflawni’r saith cynllun peilot cychwynnol a gyhoeddwyd yn 2021/22, a’r 13 cynllun newydd sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2022/23. Cafodd £500,000 ei ddyrannu ym mis Mawrth ar gyfer y cynlluniau yma.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r £1 miliwn ychwanegol sydd wedi'i gynnig ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd pellach ochr yn ochr â chyfleoedd ariannu pellach drwy Lywodraeth Cymru. At ei gilydd, mae oddeutu £12 miliwn wedi'i wario ar uwchraddio isadeiledd yn y maes yma yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â £15 miliwn ar atgyweiriadau ers Storm Dennis.

“Mae’r cyllid arfaethedig hefyd yn anelu at wella’r amgylchedd o’n cwmpas, a sicrhau bod modd i drigolion ac ymwelwyr fwynhau’r mannau awyr agored y mae Rhondda Cynon Taf yn eu cynnig. Mae hyn yn cynnwys atgyweirio ac uwchraddio pafiliynau, caeau chwaraeon ac isadeiledd yn ein parciau, datblygu ardaloedd gemau aml-ddefnydd ar gyfer gweithgareddau hamdden, a darparu rhagor o finiau gwastraff a meinciau mewn lleoliadau allweddol.

“Byddai’r cyllid sy'n cael ei gynnig ar gyfer cae chwaraeon 3G newydd yng Nglynrhedynog, drwy uwchraddio’r astroturf presennol ym Mharc y Darren, yn ategu cais am gyllid ar gyfer y prosiect yma yn y dyfodol. Hwn fyddai'r pymthegfed maes chwaraeon 3G 'pob-tywydd' yn Rhondda Cynon Taf, sydd naill ai wedi'i gyhoeddi ar gyfer y dyfodol neu eisoes wedi'i adeiladu. Mae’r Cyngor yn parhau i gyflawni ei ymrwymiad i ddarparu un o’r cyfleusterau yma o fewn tair filltir i bob cartref yn y Fwrdeistref Sirol.”

Wedi ei bostio ar 30/08/2022