Skip to main content

Adeiladu fflatiau fforddiadwy yng nghanol tref Tonypandy

Dunraven Street development, Tonypandy

Bydd cwmni RHA Wales yn adeiladu 13 o fflatiau fforddiadwy yn 122 i 126 Stryd Dunraven yng nghanol tref Tonypandy.

Yn flaenorol roedd y safle gwag yn eiddo masnachol ar y llawr gwaelod, a llety preswyl uwch ei ben. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel ar ôl cael ei ddifrodi gan dân.

Rhoddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf £148,000 i RHA Wales o raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru i dalu am y gwaith dymchwel.

Mae'r safle mewn lleoliad amlwg yng nghanol y dref. Nododd y Cyngor y safle yn flaenoriaeth strategol ar gyfer cynllun adfywio canol tref ehangach Tonypandy. 

Bydd adfywio'r safle yn gwella canol y dref yn weledol ac yn darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys dwy fflat wedi'u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau. 

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Bydd y fflatiau yma'n ychwanegiad i'w groesawu i ganol tref Tonypandy. Byddan nhw'n darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ar gyfer y gymuned yng nghanol y dref. Bydd gan unigolion fydd yn byw yn y fflatiau yma fynediad rhwydd i amwynderau canol y dref, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, a byddan nhw'n helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref ar gyfer busnesau.

“Mae gan RHA Wales gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer sawl safle yn Nhonypandy a bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi datblygiadau sy’n gwella canol trefi ledled ein bwrdeistref sirol.”

Mae'r fflatiau wedi'u dylunio i fodloni Rheoliadau Ansawdd Datblygu a Safonau Cartrefi Gydol Oes Cymru, a bydd pob cartref yn cyflawni gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni 'A'. 

Meddai Rhianydd Jenkins, Cyfarwyddwr Materion Datblygu ac Adfywio Grŵp RHA Wales: “Bydd ailddatblygu’r safle yma'n trawsnewid yr ardal ac yn darparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni i bobl leol.

“Mae ein hadeilad newydd wedi’i ddylunio i barchu hanes a threftadaeth yr hen ‘Biz Club’ a oedd arfer bod ar y safle, gan ddefnyddio deunyddiau ac addurniadau tebyg cyn belled ag y bo modd. Mae’r prosiect yma'n rhan o’n strategaeth adfywio ar gyfer Tonypandy, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda busnesau lleol a’r gymuned wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”

Mae RHA Wales wedi penodi cwmni P&P Building and Roofing Contractors i adeiladu'r fflatiau. Mae disgwyl i'r fflatiau gael eu cwblhau erbyn yr hydref, 2023. 

Amcangyfrif cyfanswm y costau yw £2.8 miliwn. Mae RHA Wales wedi derbyn £1.65 miliwn o arian Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys £148,000 o gyllid rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio). Bydd RHA Wales yn darparu'r £1.15 miliwn sy'n weddill.

Wedi ei bostio ar 30/08/22