Skip to main content

Rhybudd Tywydd – Gwres Eithafol

Amber Warning Heat

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd AMBR o wres eithafol ar gyfer dydd Iau, Awst 11 a dydd Sul, Awst 14. Bydd yn effeithio ar Rondda Cynon Taf a sawl rhan arall o Gymru a’r DU.

Rydyn ni'n cynghori pobl i wneud newidiadau sylweddol i arferion dyddiol ac arferion gwaith er mwyn ymdopi â'r amodau. Mae rhagolygwyr yn rhagweld y gallai'r tymereddau eithriadol o uchel arwain at effeithiau eang ar drigolion a seilwaith.

Mae modd i wres eithafol effeithio ar iechyd unigolion, ac mae modd i rai o'r effeithiau yma fod yn ddifrifol. Mae'n bosibl bydd y gwres yn achosi oedi wrth deithio ac yn amharu ar drafnidiaeth.

Mae yna bethau syml y mae modd i bawb eu gwneud i amddiffyn eu hunain rhag gormod o wres a haul:

  • Arhoswch allan o'r gwres – arhoswch y tu mewn, osgowch weithgareddau awyr agored egnïol, gwisgwch eli haul a gorchuddiwch eich corff.
  • Ymoerwch – yfwch ddigon o ddŵr.
  • Cadwch eich amgylchedd yn glaear (cool) – arhoswch yn y rhan oeraf o'r adeilad a chadwch ystafelloedd yn gysgodol ac yn oer.
  • Cadwch lygaid ar eraill – cadwch lygaid ar deulu neu gymdogion oedrannus neu sâl.

Tywydd Poeth Eithafol: Cyngor i'r Cyhoedd

Mae perchnogion anifeiliaid anwes hefyd yn cael eu cynghori i'w cadw allan o wres eithafol, eu cadw'n oer a sicrhau eu bod yn cael digon o ddŵr i'w yfed.

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (‘RSPCA’): Gofalu am gŵn yn yr haf

Os ydych chi'n bwriadu ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd, cadwch at yr holl rybuddion diogelwch. Bydd tymheredd y dŵr yn llawer oerach na thymheredd yr aer. Hefyd, er eu bod nhw'n demtasiwn, PEIDIWCH â nofio mewn cronfeydd dŵr ar unrhyw adeg.

Bydd y Cyngor yn monitro'r tywydd ac yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion a all godi o ganlyniad i'r gwres eithafol. Os oes gyda chi unrhyw broblemau dros y penwythnos, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011.

Ffoniwch 999 mewn achosion o argyfwng yn unig. Ceisiwch gyngor gan 111 am faterion iechyd sydd ddim yn frys.

Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Swyddfa Dywydd a'r Cyngor i gael yr holl newyddion diweddaraf.

Wedi ei bostio ar 12/08/22