Skip to main content

Cau'r ffyrdd gyda'r nos am y tro cyntaf ar gyfer gwaith deuoli'r A4119

A4119 dualling night works CYM

Bydd ffyrdd ar gau gyda'r nos am y tro cyntaf (rhwng 9pm a 6am) er mwyn cynnal gwaith deuoli'r A4119 yng Nghoed-elái ar 23 a 24 Awst a 5 Medi a 9 Medi. Bydd y ffyrdd ar gau rhwng Coed-elái a chylchfannau Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru.

Dechreuodd y gwaith ar y safle ar gyfer y cynllun sylweddol yma ar 15 Awst a bydd yn cael ei gwblhau yn 2024. Yn rhan o'r cynllun bydd ffordd ddeuol 1.5 cilomedr o hyd a llwybr a rennir ar wahân i'r gymuned yn cael eu hadeiladu o gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant, ynghyd â phont teithio llesol sy'n croesi’r A4119 i’r de o gylchfan Coed-elái. Bydd hyn yn darparu llwybr newydd i'r gymuned i’r pentref. 

Bydd yr holl waith sy'n debygol o darfu, gan gynnwys cau ffyrdd, yn cael ei gynnal gyda'r nos er mwyn sicrhau bod y ffyrdd yn parhau i fod ar agor yn ystod y dydd i'r gymuned.

Bydd y ffyrdd ar gau gyda'r nos am y tro cyntaf ddydd Mawrth 23 Awst a dydd Mercher 24 Awst, ac yna rhwng dydd Llun 5 Medi a dydd Gwener 9 Medi rhwng 9pm a 6am bob nos.

Bydd hyn er mwyn clirio deunydd a sefydlu cam cyntaf mesurau rheoli traffig. I'r rheiny sy'n gyrru, bydd llwybr arall ar gael ar hyd yr A4119 i gylchfan Tonypandy, yr A4058 i Bontypridd, yr A470 i Lan-bad, Heol Ton-teg, a llwybr yr A473 ar hyd Tonysguboriau a Llantrisant. Bydd y trefniant yma'n berthnasol i'r cyfeiriad arall hefyd. Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn parhau.

Pan fydd y ffyrdd ar gau fydd gwasanaeth bws Stagecoach 122 (Tonypandy i Gaerdydd) ddim yn gallu stopio yn Nhonyrefail, Trebanog a Phen-y-graig i’r ddau gyfeiriad. Bydd yn mynd rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gorsaf fysiau Tonypandy, gan fynd ar hyd ffordd osgoi Pentre’r Eglwys, Pontypridd a'r Porth.

Er mwyn sicrhau bod modd i bobl deithio i bob safle bws ar lwybr arferol gwasanaeth y 122, bydd cwmni Xarrow Travel yn gweithredu gwasanaeth bws gwennol am ddim i'r ddau gyfeiriad pan fydd y ffyrdd ar gau gyda'r nos. Bydd yn gadael swyddfa bost Coed-elái am 8.21pm, 9.21pm a 11.21pm, gan gyrraedd gorsaf fysiau Tonypandy am 8.44pm, 9.44pm ac 11.44pm. I'r cyfeiriad arall, bydd yn gadael gorsaf fysiau Tonypandy am 8.50pm, 9.50pm ac 11.50pm, gan gyrraedd swyddfa bost Coed-elái am 9.15pm, 10.15pm a 12.15am.

Mae amserlen lawn y bws gwennol ar gael ar wefan y Cyngor drwy'r ddolen yma.

Dylai teithwyr sydd eisiau teithio i Gaerdydd, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Thonysguboriau ddal y bws gwennol i orsaf fysiau Tonypandy ac yna defnyddio gwasanaeth y 122 am 8.50pm i barhau ar eu taith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan gwmni bysiau gwennol Xarrow Travel ar 07967 636659.

Wedi ei bostio ar 18/08/22