Dyma'ch atgoffa na fydd Rhondda Cynon Taf yn goddef unrhyw achos o dipio'n anghyfreithlon yn y gymuned!
Mae perchennog garej ceir lleol wedi derbyn dirwy costus o dros £4,100 gan y llys am fethu â rheoli ei wastraff ac am dipio eitemau peryglus yn anghyfreithlon yn y gymuned ar DDAU achlysur gwahanol.
Roedd yr eitemau wedi'u tipio'n anghyfreithlon mewn man casglu biniau ger ardal breswyl ac roedden nhw'n cynnwys PUM bag du llawn gwaith papur o'r garej, menig, rhannau o geir a bocsys. Edrychodd y swyddog gorfodi trwy'r eitemau er mwyn dod o hyd i'r troseddwr posibl. Ychydig dros wythnos yn ddiweddarach, ailymwelodd y swyddog gorfodi â'r ardal a darganfod bod PEDWAR bag du arall yn cynnwys gwaith papur y garej, rhannau o geir, clytiau, a hidlydd olew o'r un garej.
Cynhaliodd y swyddog gorfodi ragor o wiriadau a chafodd y troseddwr ei wahodd i gyfweliad. Ddaeth y person ddim i'r cyfweliad. Anfonwyd cais arall ato, ond cafodd y gwahoddiad ei wrthod unwaith eto.
Yna cafodd yr achos o fethu â rheoli gwastraff byd masnach a chyflawni trosedd, yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ei gyfeirio at y Llys Ynadon.
Roedd y ffaith bod perchennog y busnes yma wedi methu ag ymateb i swyddogion y Cyngor ac heb fynd i'r llys yn dangos yn glir ei ddiystyrwch llwyr am yr hyn yr oedd e wedi'i wneud. Does byth esgus i dipio'n anghyfreithlon ac FE FYDD Cyngor Rhondda Cynon Taf yn erlid y rhai sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Fyddwn ni ddim yn goddef tipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB achos o dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion. .
"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.
"Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael i ni, i ddwyn i gyfrif y rheiny sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd."
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 10/08/22