Skip to main content

Dirwy o £700 am dipio'n anghyfreithlon!

Mae menyw o Aberpennar wedi derbyn dirwy o £700 am dipio'n anghyfreithlon ar ei stepen drws ei hun!

Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha eu trefi a'u hardaloedd gwledig.

Gosododd y fenyw dan sylw nifer o eitemau mawr y tu fas i'w thŷ teras am nifer o wythnosau ac wnaeth hi ddim ymdrech i symud yr eitemau. Roedd yr eitemau'n cynnwys; DAU bram, cwpwrdd llwyd, pen gwely du, DAU ddarn o bren gwyn a bin ar olwynion gwyrdd gyda bag du ar ei ben. 

Yn dilyn ymweliad gan swyddog gorfodi Gofal y Strydoedd, derbyniodd hi lythyr drwy'r drws yn ei chynghori i symud yr eitemau i osgoi wynebu erlyniad. Dros wythnos yn ddiweddarach dychwelodd y swyddog i wirio'r eiddo a darganfod nad oedd yr eitemau wedi'u symud a bod rhagor o eitemau wedi'u hychwanegu, gan gynnwys PEDWAR bag ailgylchu wedi'u llenwi.

Rhoddodd y swyddog gynnig arall ar siarad â'r preswylydd ond bu'n aflwyddiannus unwaith eto ac felly rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 iddi am fethu â rheoli ei gwastraff ac am dipio'n anghyfreithlon ar briffordd gyhoeddus. Cysylltodd y fenyw â'r garfan Gorfodi ar ôl nifer o wythnosau a chytunodd hi i dalu'r Hysbysiad Cosb Benodedig yn rhan o gynllun talu. Ar ôl gwneud taliad rhannol unwaith, wnaeth y fenyw ddim taliad arall am CHWE mis ac roedd hi wedi symud tŷ.

Daeth y garfan o hyd i'r fenyw yn ei chyfeiriad newydd cyn cyfeirio'r mater i'r llysoedd i adennill y ddirwy a sicrhau bod y fenyw yn cael ei dwyn i gyfrif am amharu ar ei stryd ac i sicrhau ei bod hi ddim yn osgoi canlyniadau ei gweithredoedd.

Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os fyddwch chi ddim yn gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na theithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!

Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel darganfyddodd y fenyw yma!

Mae gan y Cyngor wasanaeth ailgylchu diderfyn wythnosol, sy'n cynnwys eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau fydd yn cael eu casglu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus i dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Fyddwn ni ddim yn goddef tipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB achos o dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion.

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu'u gwaredu yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 10/08/22