Skip to main content

Diwrnod canlyniadau TGAU 2022

GCSE-2022-WELSH

Mae disgyblion blwyddyn 11 Rhondda Cynon Taf wedi bod yn derbyn canlyniadau eu cymwysterau TGAU heddiw (Dydd Iau, 25 Awst).

Ymysg y rhai a fu’n llongyfarch y disgyblion llwyddiannus ac aelodau staff yr ysgolion oedd y Cynghorydd Rhys Lewis (Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg), Gaynor Davies (Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant) ac Uwch Swyddogion eraill y Gyfarwyddiaeth Addysg. Ddydd Iau, fe fydd y swyddogion yma yn ymweld â nifer o ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol i ddymuno'n dda i'r disgyblion wrth iddyn nhw gasglu eu canlyniadau.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Ar ran y Cyngor, hoffwn i longyfarch yr holl ddisgyblion sy'n cael eu canlyniadau TGAU heddiw. Da iawn i bawb ar eu cyflawniadau academaidd, ac am eu dyfalbarhad a’u cydnerthedd er gwaethaf heriau blwyddyn academaidd 2021-22.

"Rydyn ni'n dymuno'n dda i chi wrth i chi fentro i gam nesaf eich addysg neu ddechrau ar eich llwybr gyrfa. Hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i holl staff addysg y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â rhieni a gwarcheidwaid, am eu cefnogaeth."

Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru y byddai cymwysterau TGAU cymeradwy yn cael eu hasesu yn ôl yr arfer yn ystod haf 2022, drwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad, ond gydag addasiadau.

Er mwyn lliniaru effaith yr addysgu a’r dysgu a gollwyd o ganlyniad i’r pandemig, gwnaeth CBAC addasiadau i unedau asesiadau di-arholiad a/neu unedau arholi ar gyfer y cymwysterau yma. Ar yr un pryd, gweithredodd drefniadau wrth gefn pe na bai arholiadau’n bosibl.

Yn sgil hyn mae cynnwys y cyrsiau wedi’i addasu - mae llai o asesiadau di-arholiad ac mae bellach modd dewis unedau neu gyfres o gwestiynau mewn uned i'w hateb mewn arholiadau. Bydd y newidiadau yma'n cael eu hasesu yn 2022.

Mae arweinwyr a staff ysgolion wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr holl ofynion hyn wedi’u rhoi ar waith i’r ansawdd uchaf ar gyfer ein disgyblion, er mwyn iddyn nhw ennill y graddau sy’n adlewyrchu eu potensial ac sy'n eu galluogi i barhau ar eu llwybr i addysg uwch, cyflogaeth, prentisiaethau a hyfforddiant yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymlacio'r broses o adrodd ar ddata perfformiad ac yn parhau i orfodi'r datganiad sy'n nodi na fydd data ynghylch dyfarniadau cymwysterau yn cael eu defnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortiwm rhanbarthol, ac ni cheir eu defnyddio i ddal ysgolion i gyfrif am ddeilliannau eu disgyblion.’

Bydd gofyn ar bob ysgol a darparwr addysg ôl-16 i barhau i gynnal hunanarfarniad effeithiol ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd hyn yn golygu bod ysgolion, gyda chymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, yn defnyddio’r wybodaeth lefel disgyblion sydd ganddyn nhw am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a’u gwella.

Er gwaethaf yr holl darfu yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, mae heddiw yn ddiwrnod pwysig i ddisgyblion blwyddyn 11, gan ei fod yn ddechrau pennod newydd gyffrous yn eu bywydau.

Wedi ei bostio ar 25/08/22